79df88f647e889bd774b5a8e27ccbb41.ppt
- Количество слайдов: 12
Yn y cyflwyniad hwn bydd y ffocws ar sgiliau dylunio a sgiliau modelu. Dylunio drwy fodelu â cherdyn Trosglwyddo’r dyluniad i CAD – 2 D Dylunio Defnyddio CAM i dorri allan y dyluniad Defnyddio cynhesydd strip i blygu…. . a jig Rhoi’r graffeg ar y cynnyrch terfynol
Gadewch i ni dechrau dylunio. Mae modelu’n rhan bwysig o’r uned hon. Gall modelu fod yn ddull defnyddiol iawn o ddylunio. Gall eich helpu i farnu maint, cyfrannedd, ac ymddangosiad cyffredinol syniad dylunio. Yn yr uned hon byddwch yn cael y cyfle i fodelu’n defnyddio: • papur grid sgwariau – gallwch luniadu eich syniad ar hwn, defnyddio siswrn i’w dorri allan, a phrofi ei effeithiolrwydd. • rhaglen cyfrifiadur e. e. 2 D Dylunio, i ddatblygu eich syniad ac yna ei dorri allan â siswrn neu drwy ddefnyddio torrwr laser/CAMM 2 Dylunio –modelu
Defnyddio papur grid sgwariau i fodelu. • I’ch helpu i gychwyn bydd eich dyluniadau dechreuol yn cael eu lluniadu ar gerdyn sgwariau 1 cm ac mi fyddan nhw mewn 2 D (dau ddimensiwn) • Yna bydd y dyluniadau 2 D yn cael eu torri allan fel modelau cerdyn, eu plygu a’u gwneud yn fodelau 3 D. • Ceisiwch gynhyrchu 3 dyluniad. Dewiswch y dyluniad gorau ar gyfer ei ddatblygu fel eich dyluniad terfynol. Dylunio - modelu
Mae’r animeiddio hwn yn dangos sut y gallwch chi greu eich modelau cerdyn chi. Arhoswch eiliad i’r animeiddio gychwyn. Dylunio - modelu
Mae’r ffotograff yn dangos disgyblion yn gweithio ar y modelau papur fydd yn eu helpu i ddatrys eu problemau storio. . Dylunio - modelu
Gall defnyddio cyfrifiaduron i fodelu fod yn effeithiol iawn, gallwch luniadu a newid eich syniadau, eu storio ac yna anfon eich dyluniad terfynol i’r offer CAM ar gyfer cynhyrchu. Tasg - Dilynwch y camau sy’n cael eu dangos yn yr animeiddio i gael syniad am ddaliwr ffôn symudol syml. Bydd hyn yn eich galluogi i ddod yn gyfarwydd â’r gorchmynion sydd eu hangen ar gyfer y dasg hon wrth ddefnyddio 2 D Dylunio. Argraffwch yr amlinellau terfynol ar gerdyn grid 1 cm, torrwch allan y darnau a’u rhoi at ei gilydd. Mae’r animeiddio ar y sleid nesaf yn dangos sut y gallech ddefnyddio 2 D Dylunio a grid 1 cm i ddatblygu eich syniadau dylunio Dylunio - modelu
Dwi lawr fama, nawr edrychwch ar hwn ar Nawr copiwch y sgrin gerdyn grid 1 cm, ei dorri allan a’i roi at ei gilydd. Mae 1 cm rhwng pob dot. Gadewch i ni gael gwared o’r llinellau syth drwy ychwanegu ychydig o Nawr gadewch i ni style to Now let’s gromlinau add some ddylunio’r cynalydion. Mae’r the shape by rounding off llinellau ar gyfer y slots the sharp corners. mewn coch.
Paratoi ar gyfer Y Gwneud Unwaith rydych wedi cwblhau eich modelau cerdyn ac wedi penderfynu ar eich dyluniad terfynol bydd angen ei gopio i 2 D Dylunio. Arbedwch eich dyluniad terfynol a pharatowch i ddefnyddio’r offer CAM i dorri allan y siâp e. e. Camm 2 neu dorrwr laser. Hefyd bydd angen argraffu ar bapur 3 chopi o’ch dyluniad terfynol, bydd y rhain yn ddefnyddiol wrth ddatblygu a phrofi eich syniadau ar gyfer unrhyw graffeg y byddwch yn dymuno ei ychwanegu at eich cynnyrch storio.
Yn y sleidau sy’n dilyn rydyn ni’n mynd i geisio cael ysbrydoliaeth trwy edrych ar gynhyrchion disgyblion eraill. Meddyliwch am : • y siâp amlinellol • y technegau adeiladwaith a ddefnyddiwyd • cyfuniad lliwiau’r defnyddiau • effaith y graffeg.
Dyma sut aeth rhai disgyblion eraill ati i ddatrys eu problemau storio. Y gobaith yw y bydd edrych arnyn nhw’n rhoi ysbydoliaeth am syniadau i chi. Cafodd y cynhyrchion storio eu gwneud trwy slotio a bolltio.
Dull adeiladwaith arall ar gyfer eich cynhyrchion storio fyddai defnyddio rhodenni edefyn, tiwbiau ABS a nytiau cromen. Dangosir esiamplau o’r dull hwn ar y sleid nesaf. Dyma esiampl o’r cynalydion y gellir eu defnyddio i ddal y cynnyrch yn sefydlog ac yn unionsyth. . Tiwb ABS 10 mm – tyllfedd 6 mm lliwiau amrywiol Foamex Nytiau cromen Rhoden edefyn 6 mm
Esiamplau o gynhyrchion stori lle defnyddiwyd y dull adeiladwaith tiwb, styden a nyten gromen
79df88f647e889bd774b5a8e27ccbb41.ppt