0bef0ead4ac0ac3821812d440600b31a.ppt
- Количество слайдов: 3
Yn debyg i beth mae meincnodi logisteg? Meincnodi logisteg yn gryno Beth ydy meincnodi logisteg? Yn syml iawn mae meincnodi logisteg yn broses adolygu cyfredol sy’n caniatáu i fusnes wirio pob rhan o’r gadwyn gyflenwi er mwyn canfod lle i wneud gwelliannau. Mae hyn yn galluogi’r busnes i edrych ar gyfleoedd eraill er mwyn gwella proffidioldeb a gweithio tuag at arfer gorau. Yn gryno: • Arf busnes i wella perfformiad ac ennill manteision cystadleuol. • Proses o adnabod, rhannu a defnyddio gwybodaeth ac arfer gorau. • Arf i hybu newid cynaliadwy ac arloesol. Mae meincnodi logisteg yn adolygiad o broses gyflenwi; dylai fod ganddi ddechreubwynt a diweddbwynt; o fewn hyn dylech chi allu adnabod pwyntiau pwysig allweddol (PPA) h. y. gweithgareddau sydd â’r dylanwad mwyaf ar gost, ansawdd neu fodlonrwydd cleient. Unwaith sefydlir PPA gellir adnabod Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA). Mae’r rheiny yn bethau mesuradwy a gellir eu cofnodi er mwyn gwerthuso effeithlondeb, gosod trothwyon economaidd a darparu pwyntiau y gellir cyfeirio atynt er mwyn cymharu (neu feincnodi) prosesau o fewn eich busnes neu eich busnes chi yn erbyn busnes arall neu safon diwydiannol. Deiagram 1. Enghraifft o PPA mewn cadwyn gyflenwi enghreifftiol gydag enghreifftiau o DPA Prosesau ar y Fferm Costau Cynhyrchu PPA Prosesau allweddol yn y gadwyn Cludo’r Cynnyrch Costau Dosbarthu (I) • Costau yn ymwneud â lleoliad • Cwrtaith pob Ha • Cemegau • Deunydd Planhigion • Pellter o’r cyflenwr i’r fferm (milltiroedd) • Cost cludo neu gasglu’r nwyddau • Trefniant y cynhaeaf Storfa Costau Dosbarthu (II) Manwerthwr/Prynwr • Cyfanswm yr archebion • Llwyth mwyaf • Pellter i’r Storfa • Pellter i’r Prynwr economaidd pob cerbyd • Cost gwasanaeth cludiwr • Cost cludo wedi’i oeri’n yn erbyn defnydd o erbyn cludo ddim wedi’i gerbyd(au)’r cwmni oeri • Ansawdd y cynnyrch ar ôl • Cost gwasanaeth cludiwr cludiant • Pellter i’r prynwr neu’r • Bodlonrwydd y cwsmer storfa • Gofynion ansawdd y cynnyrch Dyma nodweddion DPA: Penodol Mesuradwy Cyraeddadwy Realistig Amserwyd Beth ydy Gwerth Meincnodi Logisteg? Gellir defnyddio meincnodi gan bob math o fusnes ac ar gyfer pob graddfa. Rydych eisoes yn defnyddio rhyw fath o feincnodi yn eich busnes heb sylweddoli yn ôl pob tebyg! Ond trwy wneud y broses yn ffurfiol, cyfrifo costau eich cadwyni cyflenwi amrywiol a chofnodi’r un data bob blwyddyn, fe ddewch i wybod am y meysydd o fewn y broses naill ai ar y fferm neu drwy’r gadwyn gyflenwi; gwybod mwy am y meysydd lle mae angen gwell rheolaeth arnynt a’r hyn sydd angen ei wella. Mae o hefyd yn arf werthfawr ar gyfer cyllunio busnes ac ymchwilio i fewn i farchnadoedd newydd.
Sut mae gwneud meincnodi Er mwyn cadw meincnodi’n syml ac er mwyn osgoi cymlethdod mae’n syniad i edrych ar un broses yn unig ar y cychwyn (er engraifft llwybr un cnwd) a gweithio trwy bob elfen, yn debyg i ddeiagram 1. Ar gyfer pob elfen neu broses rhaid amlygu’r DPA ar gyfer pethau sy’n costio ac hefyd bethau heb gost; y pethau sydd yn cael y dylanwad mwyaf ar effeithioldeb cyfredol ar gyfer y rhan yna o’r broses. Rhowch i bob DPA ryw uned perthnasol a mesuradwy fel eich bod yn medru eu cymharu â phroses neu sefyllfa arall yn eich busnes neu DPA cwmni arall. Er enghraifft gweler Tabl 1. Tabl Enghraifft o DPA Cadwyn Gyflenwi y gall gael eu casglu a’u defnyddio at feincnodi logisteg DPA y Gadwyn Gyflenwi Prosesau ar y Fferm h. y. trefniant oherwydd lleoliad diarffordd Fy Fferm Nwyddau Planhigion (£/Ha or tonne) Milltiroedd o’r cyflenwr o’r fferm Cost cludo deunyddiau eraill i’r ffarm (£/Cyfnod) Unwaith bod y costau wedi’u cyfrifo mae’n bwysig cael linc neu gysylltiad i weithgareddau sydd heb gost fydd yn chwarae rôl pwysig, o bosib, mewn gwneud penderfyniad i ddefnyddio proses fwy costus, er enghraifft, er mwyn cynnal bodlonrwydd cleient, gofynion ansawdd neu iechyd a diogelwch. Gall hyn wedyn gael ei gymharu â DPA o broses arall, sefyllfa arall, fferm neu fusnes ac hefyd cael ei ddefnyddio i edrych a oes angen gwelliant a sut a phryd mae gwella prosesau. Cyfanswm Cemegau (£/Ha) Cost tanwydd o’r cyflenwyr (£/Cyfnod) DPA heb gost Cwrtaith (£/Ha) Iechyd a Diogelwch ar y fferm Dosbarthu Cynnyrch Cost tanwydd ar gyfer cludo (£/Cyfnod) Cost cludiant efo cerbyd cwmni arall (£/Cyfnod) Pellter i’r ganolfan ddosbarthu (milltiroedd) Cost cludiant wedi’i oeri (£/Cyfnod neu faint y cynnyrch) Cost cludiant heb ei oeri (£/Cyfnod neu faint y cynnyrch) 1. Amlygu proses i’w meincnodi. E. e. Logisteg Pellter i’r prynwr (milltiroedd) Deiagram 2: Y cylch meincnodi Cost cludiant efo cerbyd y fferm (£/Cyfnod) Gofynion hinsawdd ar gyfer cludo’r cynnyrch Y Ganolfan Ddosbarthu 5. Gosod targedau i’w cwrdd o fewn amser penodedig Adolygu ac ailasesu DPA a PPA yn rheolaidd 2. Amlygu DPA ar gyfer pob PPA yn y broses Pellter i’r ganolfan ddosbarthu (milltiroedd) Pellter i’r prynwr (milltiroedd) Pacio a graddio yn y ganolfan ddosbarthu? (Ie/Na) Manwerthwr/Prynwr Cynnyrch wedi’i anfon/cludo i’r prynwr? (Ie/Na) 3. Cymharu DPA efo proses, fferm neu fusnes berthnasol arall Cynnyrch wedi’i gasglu gan y prynwr? (Ie/Na) 4. Cael hyd i gost effeithioldeb pob PPA Cost cludiant yn gynwysiedig yn y pris? (Ie/Na) Lefel bodlonrwydd/adborth y cwsmer? Ffyddlondeb y cwsmer? Ansawdd y cynnyrch wrth gyrraedd y cwsmer? Cyfanswm cyfredol y gost
Beth nesa? Ar ôl i chi orffen dadansoddi’r DPA gellwch gyfrifo’ch elfennau cost a’ch elfennau heb gost ar gyfer logisteg y gadwyn benodol honna. Gellwch gymharu hyn â’r union un DPA o broses arall, sefyllfa arall, fferm neu fusnes ac yna eu ddefnyddio i edrych a oes angen gwelliant a sut a phryd mae gwella prosesau. Unwaith bod costau o’ch blaen mewn tabl rhaid gofyn cwestiynau fel, er enghraifft: Cw: Ydy’ch cadwyni logisteg yn ymarferol ac yn gost effeithiol? – Cysylltu‘r rheiny efo’ch cyfrifon elw gros; beth ydy’r mwyafswm gellwch chi ei wario ar gludo cynnyrch a dal i wneud elw wrth ystyried costau cynhyrchu? Cw: Pa gyfleoedd marchnata posibl sydd ar gael? A fyddai cyflenwi’r rheiny’n fwy cost effeithiol neu’n llai? - e. e. Archfarchnadoedd, siopau fferm, bwytai, gwerthu ar-lein. Cw: Ydy’r ffordd rydych yn trin a thrafod eich cynnyrch yn sicrhau safon, ansawdd a hir oes digonol? Ydy’r cwsmer yn fodlon efo amseriad cyson cyrhaeddiad y cynnyrch? Oes rhaid i’r cynnyrch gael cludiant wedi’i oeri? Cw: Ydych chi’n treulio gormod o amser i ffwrdd o’r fferm yn cludo cynnyrch? Beth ydy’r costau cymharol wrth ddefnyddio cludiant cwmni arall? Beth ydy’r trothwy economaidd wrth ddefnyddio cludiant gan gwmni arall? Yn seiliedig ar y data gasglwyd a’r atebion yma uchod rhaid gosod targedau busnes, a rhaid eu hadolygu’n flynyddol (o leiaf). Enghraifft meincnodi logisteg ar gyfer mefus Wrth drin a thrafod cnwd o ffrwythau meddal megis mafon neu fefus, mae cynaeafu’r cnwd a’i ddanfon at yr oerydd yn bwynt pwysig allweddol (PPA) yn y gadwyn gyflenwi. Er mwyn meincnodi’r broses basai rhaid ystyried y dangosyddion performiad allweddol (DPA) canlynol: Faint fydd o’n cymryd i’r gweithlu gynaeafu’r cae? Beth ydy’r maint mwyaf posib o amser rhwng casglu a chael y ffrwyth i fewn i’r oerydd (storfa oer) cyn i’r ansawdd ddioddef? Beth ydy’r pellter o’r cae i’r oerydd? Beth ydy’r maint mae’r trêlar yn medru’i ddal? Sawl taith yn ôl ac ymlaen sydd ei hangen? Ydy’r ffyrdd yn wastad ac heb dyllau ac ati? Oes angen tractor, neu oes modd cael cerbyd mwy tanwydd effeithiol? Oes angen rheoli ansawdd ar y cae neu a wneir hyn yn y storfa? Oes angen hyfforddiant? Ac mae hyn i gyd cyn i’r ffrwythau gyrraedd y lle pacio! Unwaith yr amlygir y DPA a bod data perthnasol wedi’u casglu cewch ddechrau adeiladu corff o ddata y gellwch chi ei archwilio. Wedyn wrth droi’r data yn feincnod ffurfiol, gellwch drafod efo’ch grŵp marchnata, tyfwyr eraill a safonau cyhoeddedig. Bydd wynebu hyn i gyd yn arbed ffermwr neu dyfwr arian, neu helpu cael y cynnyrch i’r farchnad mewn gwell cyflwr – yr un peth yn ei hanfod. Ble i gael help? – Isod fe welwch ffynonellau ar gyfer gwybodaeth a sefydliadau fydd yn medru helpu efo meincnodi logisteg Awdit mewnol – Bydd Awdit Mewnol yn ddefnyddiol i ffermwyr sydd wedyn yn medru cymharu logisteg eu fferm pob blwyddyn. Gall data sy’n seiliedig ar gost gael ei asesu trwy ddefnyddio teclyn cyfrifo elw gros Garddwriaeth Cymru neu trwy gysylltu â chynghorwyr amaethyddol: http: //www. horticulturewales. co. uk/Library/Crop. Calculator. aspx. Hefyd mae Cyswllt Ffermio/Farming Connect http: //farmingconnect. menterabusnes. co. uk/farmingconnect/horticulture Ymgynghorwyr – Basai cwmni meincnodi yn medru mynd trwy’r broses meincnodi ffurfiol gyda ffermwr a basai gan y cwmni, o bosib, fynediad at wybodaeth am y farchnad a data o ffermydd eraill. Gweler y canlynol: Bidwells (http: //www. bidwells. co. uk/services/rural/agribusiness), Rural Business Research (http: //www. farmbusinesssurvey. co. uk/benchmarking/) ac Agrii Farm Advice Services (http: //www. agrii. co. uk/products-services/farm-advice-services/). Sefydliad y Tyfwyr – Mae rhai sefydliadau, e. e. HTA yn rhedeg gweithdai ar reoli busnes a datblygu busnes ar gyfer eu haelodau. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar y broses. Hefyd maent yn casglu data o’r farchnad a ffermydd eraill a gellwch feincnodi hyn eich hunan.
0bef0ead4ac0ac3821812d440600b31a.ppt