
a85ce17520883fc6169b328362f2bb90.ppt
- Количество слайдов: 18
UG Uned 1 Caffael Diwylliant; Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1: Diffiniadau a Chyffredinolrwydd Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1
Amcanion y powerpoint hwn Ar ôl gweld y gyfres hon o sleidiau, dylech fod yn ymwybodol o: n Pam y mae'r teulu'n bwysig wrth gaffael diwylliant. n Sut y gellir diffinio’r teulu. n A yw'r teulu'n gyffredinol? Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 2
Syniadau Sylfaenol am y Teulu Mae cymdeithasegwyr yn astudio'r teulu gan mai hwn yw'r cyfrwng cymdeithasoli pennaf mewn cymdeithas. Mae'n cynrychioli un o brofiadau allweddol bywyd unigolyn - fel plentyn ac i'r mwyafrif o oedolion wrth iddynt fod yn rhieni. Y teulu yw'r man lle rydym fwyaf tebygol o ymddwyn yn hollol naturiol. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 3
Ein Tasg wrth Astudio'r Teulu Adnabod nodweddion cadarnhaol a negyddol bywyd teuluol Deall ym mha ffyrdd y mae'r teulu’n newid. Ystyried yr hyn y mae bywyd teuluol yn ei olygu i'w aelodau. Deall rôl y teulu wrth gaffael diwylliant. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 Gofyn a yw'r teulu'n dirywio ac yn diflannu? 4
Diffinio'r Teulu Mae Anthony Giddens yn diffinio’r teulu fel hyn: ‘Grŵp o bobl sy’n cael eu cydgysylltu yn uniongyrchol drwy gysylltiadau perthynas, a lle mae'r aelodau sy'n oedolion yn cymryd cyfrifoldeb am ofalu am y plant’. Mae carennydd yn cyfeirio at berthnasoedd sy’n seiliedig ar rwymau biolegol neu briodasol. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 Mae Aelwyd yn cyfeirio at leoliad bywyd teuluol. 5
Pa gyfran o Aelwydydd sy'n cynnwys Teuluoedd Fel Hwn? Dim ond 21% o aelwydydd yn 2005! Mae parau priod gyda phlant yn ffurfio 18% yn unig o'r holl aelwydydd. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 6
Murdock a Goode ar y Teulu Cnewyllol Dywedodd George Murdock (1949, yn y llun ar y chwith) fod yr uned deuluol sylfaenol ledled y byd yn un cnewyllol sy’n cynnwys mam, tad a'u plant. Dywedodd William Goode (1963) fod y duedd fyd-eang yn symud i gyfeiriad y model Gorllewinol o deulu cnewyllol. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 7
Dewisiadau sy'n wahanol i'r Teulu Traddodiadol - Amlwreiciaeth Ym Mhrydain rydym yn dilyn monogami (priodas rhwng dau berson o wahanol ryw yn unig). Amlwreiciaeth / Amlwriaeth yw priodas sy'n cynnwys o leiaf tri o bobl. Amlwreiciaeth yw sefyllfa lle gall dyn gael mwy nag un wraig. Amlwriaeth yw sefyllfa lle gall gwraig gael mwy nag un gŵr. Mae monogami cyfresol yn arfer cyffredin ym Mhrydain heddiw (priodi nifer o bobl yn ystod oes, ond un ar y tro). Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 8
Llwyth y Nayar Mae Kathleen Gough (1972) yn disgrifio sut byddai menywod yn geni plant i hyd at 12 gŵr ‘Sandbanham. ’ Yn hytrach, roedd brodyr y fam yn gyfrifol am y gost o fagu ei phlant. Nid oedd y tadau biolegol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eu magwraeth. Adlewyrchir hyn mewn rhai teuluoedd yn y gymdeithas gyfoes. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 9
Cymuned Oneida (Boston UDA) 1848 Sefydlwyd Cymuned Oneida gan bregethwr Cristnogol, John Humphrey Noyes. Caniatawyd perthynas rywiol rhwng unrhyw aelodau a oedd yn gytûn. Roedd yna briodasau mewn grŵp gyda phlant yn cael eu magu yn gymunedol. Yr unig rhai a gafodd atgenhedlu oedd y rhai a ystyriwyd yn addas. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 10
Arbrawf yn Rwsia Wedi'r Chwyldro yn Rwsia yn 1917, gwnaed ymdrech fwriadol i ddinistrio'r teulu traddodiadol. Diddymwyd priodas ac ysgariad. Sefydlwyd meithrinfeydd, golchdai a ffreuturau, er mwyn rhyddhau menywod o waith tŷ. Fodd bynnag, cafodd y plant eu niweidio'n seicolegol o ganlyniad i'r ansefydlogrwydd wrth i'w rhieni symud o un partner at y llall. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 11
System Kibbutz (Israel) Mae tua 4 -5% o boblogaeth Israel yn byw mewn kibbutz heddiw. Gan amlaf, câi plant yn cael eu magu ar wahân i'w rhieni mewn ‘grwpiau oedran’. Byddai'r plant yn treulio ‘amser teulu’ gyda'r hwyr a phob penwythnos gyda'u rhieni biolegol. Erbyn heddiw mae'r mwyafrif o blant y kibbutz yn bwyta ac yn cysgu gyda'u rhieni Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 12
Teuluoedd Croenddu Mamganolog O fewn cymunedau Affricanaidd-Caribïaidd mae teuluoedd lle mae'r tad yn absennol yn gyffredin. Fodd bynnag, mae'r rhain yn deulu go iawn, llawn cymaint ag unrhyw deulu rhiant unigol arall. Felly, maent yn wahanol i'r teulu traddodiadol, ond ai amrywiad yn unig o'r teulu ydynt? Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 13
Comiwnau Ers canol y 1970 au, mae nifer y gomiwnau ym Mhrydain wedi haneru o 100 i tua 50. Mae comiwnau yn amrywio mewn strwythur ac mewn rhyddfrydedd. Er bod elfen o rannu, fel arfer mae'r uned deuluol yn cael ei hymgorffori o fewn y gymuned ehangach. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 14
A yw'r Teulu Cnewyllol yn Gyffredinol? Mae Diane Gittins (1993) yn awgrymu mai'r unig ffordd y gellir disgrifio perthnasoedd yw fel rhai cyffredinol. Mae Barrett a Mc. Intosh (1991) yn pwysleisio mai'r hyn sy’n arwyddocaol yw’r syniad o deulu cnewyllol fel rhywbeth cyffredinol. Yn ôl Robert Chester, mae tynnu ‘cipluniau’ o fathau o aelwydydd yn gamarweiniol. Ar hyd y gylchred bywyd mae'r mwyafrif o bobl yn byw mewn teuluoedd. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 15
Casgliadau n n n Diffinir y teulu fel pobl sy'n cael eu rhwymo gan berthnasoedd wedi'u seilio ar waed, priodas, cyd-fyw a mabwysiadu. Mae George Murdock yn ystyried bod y teulu cnewyllol yng ngwraidd pob teulu. Mae William Goode yn tybio mai’r duedd fyd-eang yw symud i gyfeiriad y model gorllewinol o deulu cnewyllol. Mae llawer o enghreifftiau sy'n herio cyffredinolrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys enghreifftiau anthropolegol megis llwyth hanesyddol y Nayar. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 16
Casgliadau (parhad) n n n Cafwyd sawl ymgais bwriadol i greu teuluoedd cyfunol megis Cymuned Oneida. Mae'r 'arbrawf' Rwsiaidd yn bwysig gan ei fod yn dangos pa mor arwyddocaol y mae'r teulu i gymdeithas. Ni all system Kibbutz Israel gymryd lle y teulu mewn gwirionedd. Yn ôl Diane Gittins, oherwydd bod cymaint o amrywioldeb o fewn cymdeithasau, mae'n anodd diffinio'r teulu fel syniad cyffredinol, perthnasoedd yn unig y gellir eu diffinio felly. Mae Chester yn dadlau fod ‘cipluniau’ o gartrefi yn cuddio pwysigrwydd y teulu yn ystod cylchred bywyd pobl. Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 17
Diwedd y Cyflwyniad Teuluoedd a Diwylliant Wythnos 1 18