
505b0d66fd10994b736b2a2370174f8f.ppt
- Количество слайдов: 99
Olrheiniadwyedd, ansawdd a diogelwch bwyd © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Amcanion dysgu • Adolygu, nodi a gweithredu ymchwil i ddirnadaeth a hyder y defnyddiwr mewn bwyd. • Deall y pethau sy’n sbarduno’r defnyddiwr mewn perthynas â chynhyrchu, prosesu a phrynu bwyd. • Deall pwysigrwydd olrheiniadwyedd, diogelwch ac ansawdd bwyd. • Archwilio a deall yr egwyddorion tu cefn i dri chynllun sicrwydd bwyd gwahanol ar gyfer cynhyrchu llaeth ym Mhrydain. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Croeso I archwilio’r testun hwn, cliciwch ar yr eiconau canlynol. Maent i’w gweld ar waelod bob sgrin. Mynd yn ôl i’r sgrin gartref Mynd i’r dudalen flaenorol Mynd i’r dudalen nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Prif ddewislen (cartref) Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. Mae cwestiynau ar gael ar bob adran hefyd. Adran 1: Dirnadaeth a hyder y defnyddiwr mewn bwyd Cwestiynau Adran 2: Olrheiniadwyedd, diogelwch ac ansawdd Cwestiynau Adran 3: Astudiaethau Achos – cynlluniau sicrwydd bwyd Cwestiynau © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Diwedd
Adran 1: Dirnadaeth a hyder y defnyddiwr mewn bwyd Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. Cyflwyniad Hyder yn ein bwyd? Prif flaenoriaeth: diogelwch bwyd Pryderon y defnyddiwr am faterion bwyd Ffactorau dylanwadol wrth ddewis cynnyrch Y pum prif ffactor Hyder y defnyddiwr Tarddiad bwyd Helpu’r defnyddiwr © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Adran 1: Dirnadaeth a hyder y defnyddiwr mewn bwyd Y ffordd y mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i brosesu, yn ogystal â’r ffordd mae hynny’n cael ei gyfleu a’i ddirnad sydd yn y pen draw’n pennu hyder, ymddiriedaeth a dealltwriaeth y defnyddiwr o arferion ffermio a/neu grwpiau bwydydd neu gynhwysion penodol Gall diogelwch bwyd, halogiad neu glefydau anifeiliaid gael effaith ddrastig ar hyder y defnyddiwr, ac yn sgil hynny ar y bwyd mae’n ei brynu ar y pryd ac yn yr hirdymor. Gall hyn nid yn unig effeithio ar ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr, gall olygu hefyd bod defnyddwyr â deiet llai amrywiol a chytbwys. Mae’n eithriadol o bwysig felly bod bwyd yn cael ei dyfu, ei fagu, ei ddal a’i brosesu hyd y safonau uchaf, a bod hynny’n cael ei gyfleu’n effeithiol i’r defnyddiwr. Mae hyn yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Hyder yn ein bwyd? Yn ôl ymchwil diweddar gan Mintel (2013) fu’n edrych ar agweddau o ran ymddiried mewn bwyd: • Roedd 49% yn ymddiried yn y diwydiant bwyd i ddarparu bwyd oedd yn ddiogel i’w fwyta, gyda 37% yn methu penderfynu; • Roedd 42% yn credu bod y diwydiant bwyd yn gallu ymateb i ofnau ynghylch bwyd; • Roedd 23% yn cytuno bod yna gydweithio effeithiol rhwng y gwahanol elfennau o’r gadwyn fwyd; • Roedd 36% yn teimlo bod cynhyrchwyr bwyd yn gwybod o ble mae eu cynhwysion yn dod (34% yn anghytuno); • Roedd 37% yn anghytuno bod archfarchnadoedd yn ymwybodol o darddiad eu cynhwysion. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Ffydd yn y label? Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos sut mae pryderon ynghylch labelu’n effeithio ar hyder y defnyddiwr: • Roedd 40% yn ymddiried mewn archfarchnadoedd a chynhyrchwyr bwyd i ddarparu labeli cywir ar becynnau bwyd; • Roedd 45% o ddynion, sef cryn dipyn yn fwy na merched (36%), yn debygol o fod yn bositif am gywirdeb gwybodaeth ar becynnau. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ffaith bod dynion yn fwy tebygol o gytuno bod y diwydiant bwyd yn darparu bwyd sy’n ddiogel (dynion 53% o’i gymharu â merched 46%), yn ogystal â bod archfarchnadoedd yn ymwybodol o darddiad eu cynhwysion (dynion 35% o’i gymharu â merched 29%). © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Prif flaenoriaeth: diogelwch bwyd O holl agweddau’r gadwyn fwyd y mae pobl yn credu y dylai’r llywodraeth fod yn atebol amdanynt, diogelwch bwyd sy’n cael y flaenoriaeth uchaf. Mae bron i ddau o bob pum oedolyn (38%) yn ystyried mai cyfrifoldeb y llywodraeth yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, sy’n uwch na’r cyfrifoldeb mewn perthynas â chynaladwyedd (29%), iechyd (10%) a hyrwyddo bwydydd o Brydain (14%). Yn nhermau diogelwch bwyd, mae’r cyhoedd ym Mhrydain yn ystyried bod gan y llywodraeth (38%) a chynhyrchwyr bwyd (39%) tua’r un lefel o gyfrifoldeb dros ddarparu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Y pum prif ffactor Yn ôl yr ymchwil roedd yna bum prif ffactor a fyddai’n annog y defnyddiwr i ymddiried mewn bwyd, sef: • Cynhwysion Prydeinig - 48% • Manylion cynhyrchu ar labeli bwyd (ble a sut y cafodd ei wneud) - 47% • Tystysgrif lles anifeiliaid - 45% • Tarddiad y cynnyrch ar y pecyn - 43% • Dim cynhwysion artiffisial - 43%. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 http: //www. mintel. com/ press-centre/food-anddrink/food-safety-afterhorse-meatscandalhttp: //www. mint el. com/presscentre/food-anddrink/food-safety-afterhorse-meat-scandal
Mae siopwyr am wybod mwy am darddiad bwyd I gyd-fynd â’r thema o gynyddu hyder y defnyddiwr mewn bwyd mae arolwg tracio siopwyr yr IGD yn dangos bod siopwyr am wybod mwy am darddiad eu bwyd. Yn ôl yr arolwg: • Roedd 82% o siopwyr yn ystyried bod sut, a 73% yn ystyried bod ble mae eu nwyddau’n cael eu cynhyrchu’n bwysig; • Roedd 41% o siopwyr am wybod mwy am darddiad eu nwyddau; • Roedd gan 78% ddiddordeb mewn gwybod mwy am fwydydd ffres fel cig, dofednod, ffrwythau, llysiau, cynnyrch llaeth, wyau a physgod; • Roedd 41% am gael gwybodaeth ynghylch tarddiad ar y silffoedd, a 39% am ei gael ar y pecynnau; • Hoffai 31% o’r rhai oedd am gael mwy o wybodaeth ynghylch tarddiad gael dolenni cyswllt i wefannau ar becynnau cynnyrch. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Canran y bobl oedd yn pryderu am faterion bwyd penodol (2011 -2012) Mae’r siart hwn yn dangos agweddau’r cyhoedd tuag at bryderon bwyd gwahanol. Pris y bwyd sydd ar frig y rhestr, yna pryderon ynghylch maint yr halen mewn bwyd, gwastraff bwyd, braster, a braster dirlawn. Yn gyffredinol mae pryderon ynghylch cynhyrchu bwyd a diogelwch yn is i lawr y rhestr nag ystyriaethau maethol. Fodd bynnag, mae tarddiad bwyd, a sut mae’n cael ei brosesu a’i becynnu’n dal i fod o ddiddordeb mawr wrth benderfynu a yw’n dderbyniol, a ph’un ai i’w brynu ai peidio. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau prynu’r defnyddiwr © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau prynu’r defnyddiwr Yn ôl y siart ar y dudalen flaenorol: • Mae pris yn fwy a mwy pwysig wrth wneud penderfyniadau prynu, gyda 41% o siopwyr yn ei enwi fel y ffactor pwysicaf a 90% yn ei osod ymhlith y pump uchaf ar y rhestr dylanwadau; • Mae ymgyrchoedd hyrwyddo’n ddylanwadol dros ben, gyda 70% yn eu gosod ymhlith y 5 ffactor uchaf; • Rhoir llai o bwysigrwydd i opsiynau iach, gydag 8% yn unig o siopwyr yn ei enwi fel y dylanwad pennaf, a dim ond 47% yn ei osod yn y pump uchaf; • Rhoddodd mwy o siopwyr gynefindra a blas/arogl o fewn eu pum ffactor uchaf nag opsiynau iach; • Mae enwau brand yn dal i ddylanwadu ar nifer o benderfyniadau prynu, gyda 33% o siopwyr yn ei enwi ymhlith eu 5 dylanwad pennaf, a 2% fel y dylanwad pennaf oll; • Nwyddau a gynhyrchwyd yn foesegol a ystyriwyd yn lleiaf pwysig, gydag 16% o siopwyr yn ei enwi ymhlith eu 5 dylanwad pennaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 http: //www. defra. gov. uk/statistics /foodfarm/food/pocketstats
Hyder y defnyddiwr Yn ôl ymchwil diweddar gan Which? , roedd defnyddwyr o’r farn bod angen gwybodaeth gliriach am y mathau o fwydydd y dylen nhw fod yn eu dewis. Roedd chwech o bob deg (61%) am gael mwy o wybodaeth am ansawdd y cynhwysion a ddefnyddiwyd, canran debyg (58%) am wybod mwy am safonau diogelwch bwyd, a thros eu hanner (53%) am wybod ble y cafodd y bwyd ei gynhyrchu. Dywedodd dwy ran o dair (65%) fod prisiau bwyd wedi dod yn bwysicach yn yr hinsawdd economaidd bresennol, yna ansawdd (35%) a blas (32%). Yn ôl ymchwil blaenorol gan Which? , gyda chyllidebau aelwydydd dan bwysau cynyddol, mae pobl yn newid eu harferion siopa, gan fwyta allan yn llai aml a chwilio am gynigion arbennig. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Ffynhonnell: Future of food report, 2013 Which?
Yn ôl arolwg Which? hefyd roedd yna nifer o feysydd roedd pobl yn teimlo bod angen mwy o wybodaeth amdanynt. Dyma’r meysydd roedd pobl am gael mwy o wybodaeth amdanynt: • Ansawdd y cynhwysion a ddefnyddir - 61% • Safonau diogelwch bwyd - 58% • Ble mae’r bwyd yn cael ei gynhyrchu - 53% • Cynnwys maethol - 51% • Y dull a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r bwyd - 50% • Safonau lles anifeiliaid - 50% • Effaith amgylcheddol y bwyd - 38% Darllen pellach: http: //press. which. co. uk/whichpressr eleases/call-for-more-action-torestore-confidence-in-food/ Ebrill 2013 Roedd yr adroddiad: http: //press. which. co. uk/wpcontent/uploads/2013/04/Future-of. Food-Report-2013_Final. pdf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Helpu’r defnyddiwr Er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr am eu bwyd, mae nifer o gynlluniau sicrwydd bwyd a labelu amgylcheddol a moesegol ar gael erbyn hyn. Mae rhai ar gyfer y diwydiant cyfan ac eraill ar gyfer manwerthwyr penodol. Ffynhonnell: Adroddiad dyfodol bwyd, 2013 Which? © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Adran 2: Olrheiniadwyedd, diogelwch ac ansawdd Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. Olrheiniadwyedd Diogelwch bwyd Sicrwydd bwyd Estyniad: Diogelwch bwyd ac amddiffyn y defnyddiwr © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Beth yw olrheiniadwyedd? Mae olrheiniadwyedd yn golygu gwybod ble mae bwyd wedi’i gynhyrchu a’i brosesu trwy ei gadwyn fwyd. Er enghraifft, gall olygu o ble mae darn o ffrwyth yn tarddu neu leoliad y fferm laeth ar gyfer carton o laeth. Mae olrheiniadwyedd yn golygu gwybod beth yw’r camau cynhyrchu a gallu olrhain y cynnyrch yn ôl trwy’r gadwyn. Y defnyddiwr yw’r ddolen olaf yn y gadwyn fwyd, a ddechreuodd ar y fferm neu gyda’r cynhyrchydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae gallu olrhain y cynnyrch yn llawn yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth rhwng y manwerthwr â’r defnyddiwr. Fodd bynnag, gall fod yn anodd adeiladu’r ymddiriedaeth hon oherwydd natur gymhleth a diwydiannol ein system fwyd. Mae angen i ddefnyddwyr fagu ffydd yn y gweithdrefnau a’r prosesau sydd tu cefn i’r olrheiniadwyedd, gan greu cyswllt rhwng y dulliau cynhyrchu ag ansawdd y bwyd. Yn ogystal, gall fod yna feini prawf eraill sydd o ddiddordeb i’r defnyddiwr, fel sicrhau bod y bwyd yn organig, yn llysieuol, yn rhydd o alergenau penodol, yn Kosher neu Halal. Defnyddir safonau olrhain bwyd mewn achosion felly i sicrhau bod gan y defnyddiwr hyder yn y bwyd mae’n ei brynu. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Diogelwch bwyd Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ar hyd holl gadwyn fwyd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys gwella safonau glendid ar y fferm a sicrhau nad yw iechyd pobl yn cael ei beryglu’n ormodol gan yr hyn a fwydir i’r anifeiliaid. Ffynhonnell: http: //www. food. gov. uk/businessindustry/farmingfood/#. Ug. TPis 0 dqe. Y © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae’r gwaith o gynhyrchu, prosesu, dosbarthu, manwerthu, pecynnu a labelu bwyd yn cael ei reoli gan nifer o gyfreithiau, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau. Mae’r rhain yn cynnwys: • Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (diwygiedig) – y fframwaith ar gyfer holl ddeddfwriaeth bwyd Prydain; • Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (GE) 178/2002– deddfwriaeth glendid bwyd gyffredinol y GE • Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (diwygiedig) yn darparu ar gyfer gorfodi rhai o ddarpariaethau Rheoliad 178/2002 (GE) (gan gynnwys gosod cosbau) ac mae’n diwygio Deddf Diogelwch Bwyd 1990 i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â Rheoliad 178/2002 (GE). Mae deddfwriaeth debyg ar waith yng Ngogledd Iwerddon. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 I gael mwy o wybodaeth am gyfraith bwyd yn gyffredinol cliciwch yma. http: //www. food. gov. uk/enfor cement/regulation/foodlaw/#. Ug. TQXM 0 dqe. Y
Sicrwydd bwyd Nid yw cyfraith bwyd o angenrheidrwydd yn ymwneud â holl agweddau’r gadwyn fwyd , o’r fferm i’r fforc. Felly datblygwyd cynlluniau sicrwydd bwyd i roi sicrwydd i fanwerthwyr ar lefel y fferm ac o fewn rhannau ategol eraill o’r gadwyn gyflenwi. Cafodd y datblygiad hwn anogaeth swyddogol am fod ganddo’r potensial i ategu at weithgareddau rheoleiddiol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Gwybodaeth estynedig Dyma’r prif droseddau diogelwch bwyd ac amddiffyn defnyddwyr a grëwyd gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 Adran 7: gwneud bwyd yn niweidiol i iechyd drwy: • Ychwanegu nwydd neu sylwedd at y bwyd • Defnyddio nwydd neu sylwedd fel cynhwysyn neu wrth baratoi’r bwyd • Tynnu unrhyw gyfansoddyn o’r bwyd • Rhoi’r bwyd trwy unrhyw broses neu driniaeth gyda’r bwriad o’i werthu i’w fwyta gan bobl. Adran 14: gwerthu ar draul y prynwr unrhyw fwyd nad yw o’r natur neu sylwedd neu ansawdd y gofynnodd y prynwr amdano. Adran 15: disgrifio neu gyflwyno bwyd mewn ffordd dwyllodrus. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Dan adran 20, os cyflawnir trosedd o ganlyniad i weithred neu esgeulustod person arall, y person arall sy’n euog o’r drosedd. Dan adran 21, yn ystod achos o drosedd dan ddarpariaethau Rhan 2 o’r Ddeddf (sy’n cynnwys y troseddau a restrir uchod), gall gweithredwr busnes bwyd amddiffyn ei hun drwy brofi ei fod wedi cymryd pob gofal rhesymol, ac wedi mynd ati’n ddiwyd i osgoi cyflawni’r drosedd. Prif ddarpariaethau Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol 178/2002 (GE) sy’n berthnasol i weithredwyr busnesau bwyd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mewnforion: Mae Erthygl 11 yn datgan y bydd unrhyw fwyd a fewnforir i’r Undeb Ewropeaidd (UE), i’w osod ar y farchnad, yn cydymffurfio â’r gofynion cyfraith bwyd a gydnabyddir gan yr UE, neu os oes yna gytundeb penodol rhwng yr UE â’r wlad sy’n allforio, y gofynion hynny. Diogelwch: Mae Erthygl 14 yn datgan na ddylid gosod bwyd ar y farchnad os nad yw’n ddiogel. Bernir bod bwyd yn anniogel os ystyrir ei fod yn niweidiol i iechyd neu’n anffit i’w fwyta gan bobl. Mae’r erthygl hefyd yn nodi pa ffactorau sydd angen eu hystyried wrth pennu a yw bwyd yn niweidiol i iechyd neu’n anffit i’w fwyta. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cyflwyniad: Mae Erthygl 16 yn nodi na ddylai’r labelu, yr hysbysebu a’r cyflwyniad, gan gynnwys y lleoliad lle caiff y bwyd ei arddangos, gamarwain y defnyddiwr. Olrheiniadwyedd: Mae Erthygl 18 yn gofyn bod gweithredwyr busnesau bwyd yn cadw cofnod o’r bwyd, sylweddau bwyd, a’r anifeiliaid a ddefnyddir i gyflenwi bwyd i’w busnesau, yn ogystal â busnesau eraill maent yn cyflenwi cynnyrch ar eu cyfer. Ym mhob achos, dylai’r wybodaeth fod ar gael i awdurdodau perthnasol pan fo angen. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Tynnu neu alw bwyd yn ôl a hysbysu: Mae Erthygl 19 yn gofyn bod gweithredwyr busnesau bwyd yn tynnu bwyd yn ôl os nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion diogelwch bwyd, os ydyw wedi gadael eu rheolaeth nhw; ac i alw bwyd yn ôl os ydyw wedi cyrraedd y cwsmer. Mae tynnu bwyd yn ôl yn golygu ei dynnu o’r farchnad hyd at, ac ar yr adeg mae’n cael ei werthu i’r cwsmer; mae galw bwyd yn ôl yn golygu gofyn i’r cwsmer i ddychwelyd neu gael gwared â’r cynnyrch. Rhaid i fusnesau bwyd hysbysu’r awdurdodau perthnasol hefyd (eu hawdurdod lleol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd). Rhaid i fanwerthwyr a dosbarthwyr helpu i dynnu unrhyw fwyd anniogel yn ôl, a phasio’r wybodaeth angenrheidiol ymlaen er mwyn ei olrhain. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Adran 3: Astudiaethau achos Mae cynlluniau sicrwydd bwyd yn cael eu rhedeg fel cynlluniau ardystio cynnyrch. Mae’r cynlluniau hyn yn defnyddio archwiliadau annibynnol rheolaidd i wneud yn siŵr bod yr aelodau’n cwrdd â safonau penodol. Maent yn aml yn defnyddio logos ar gynnyrch defnyddwyr i ddangos eu bod yn cwrdd â’r holl ofynion. Nod y prif gynlluniau sicrwydd bwyd yw diffinio’r safonau y dylai’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr y sector eu cyrraedd. Dros amser, bwriad y cynlluniau hyn yw codi safonau i wella safon gyffredinol y sector cyfan. Astudiaeth achos 1: Y Tractor Coch Astudiaeth achos 2: LEAF Marque Astudiaeth achos 3: Cynllun annibynnol © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Astudiaeth achos 1: Y Tractor Coch Sefydlwyd y Safonau Sicrwydd Bwyd (SSB) yn 2000 i helpu i gydlynu’r dull o osod safonau ac archwiliadau ar hyd y gadwyn gyflenwi, ac i ddarparu’r cyhoedd â marc sy’n dynodi bwyd safonol, diogel a fforddiadwy y gallant ei adnabod ac ymddiried ynddo. Y Tractor Coch yw wyneb cyhoeddus y cynllun. Mae’r cynllun yn hyrwyddo cydnabyddiaeth o fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n broffesiynol, ac mae’n hwb i enw da cynhyrchu bwyd yn y Deyrnas Unedig. Cyflawnir hyn drwy sefydlu meincnod safonau cynhyrchu, ac yna cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod cynhyrchwyr, proseswyr a gweithredwyr eraill yn cwrdd â’r safonau hyn yn barhaus. Mae’r rhain yn cynnwys diogelwch bwyd, lles anifeiliaid, yr amgylchedd ac olrheiniadwyedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Gellir ond arddangos y Tractor Coch ar fwyd sydd wedi’i gynhyrchu, pecynnu, storio a chludo yn unol â safonau’r Tractor Coch. Mae’r safonau ar gyfer bob sector ffermio (megis dofednod, llaeth neu lysiau) wedi’u cytuno gan banel o arbenigwyr, i sicrhau bod y bwyd yn ddiogel a bod yr anifeiliaid yn cael eu trin yn dda. Mae holl gynlluniau sicrwydd y Tractor Coch yn gweithredu’n unol â Chanllaw 65 y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO), sef y Safon Ewropeaidd EN 45011. Mae hwn yn gwarantu bod yr archwilwyr annibynnol wedi cael hyfforddiant a phrofiad priodol. Yn gyfan gwbl mae dros 450 o archwilwyr yn gweithio ar gynllun y Tractor Coch ac maent yn cynnal dros 60, 000 o archwiliadau’r flwyddyn. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Defnyddir logo’r Tractor Coch ar gyfer nifer o grwpiau bwyd, y cyfan wedi’u tyfu, prosesu a phecynnu ym Mhrydain. Dangosir hyn gyda baner Jac yr Undeb. Mae logo’r Tractor Coch yn rhoi gwybod i’r cwsmer bod y bwyd wedi’i wirio yn ystod pob cam o’r daith – o’r fferm i’r pecyn – a bod modd ei olrhain yn ôl i’w darddiad. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Agweddau allweddol Sicrwydd: Does dim dolenni gwan yn y gadwyn, mae’r cynllun yn cynnwys bwydydd anifeiliaid, ffermydd, cludo da byw, y broses o ladd, dulliau cynhyrchu, safonau cyfansoddiadol eitemau fel sosej, byrgers. Diogelwch bwyd: Mae pawb sy’n rhan o’r broses – o’r ffermwyr i’r arlwywyr – yn arbenigwyr yn eu maes, ac wedi’u hyfforddi i drafod bwyd yn ddiogel a chyfrifol. Lles anifeiliaid: Mae’n sicrhau bod anifeiliaid yn cael popeth sydd ei angen arnynt i gael bywyd o ansawdd da, a’u bod yn cael eu trin yn drugagog gan ffermwyr sy’n deall eu gwaith. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Agweddau allweddol Yr Amgylchedd: mae’n gwneud yn siŵr bod ffermwyr yn amddiffyn cefn gwlad drwy atal llygriad cyrsiau dŵr, priddoedd, yr aer, a chynefinoedd bywyd gwyllt. Olrheiniadwyedd: Caiff pob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd ei harchwilio i sicrhau bod modd cyfrif am yr holl fwyd sy’n arddangos y logo, a bod modd ei olrhain yn ôl i ffermydd yn y Deyrnas Unedig. Mae ffermwyr yn cadw cofnodion olrhain. Nid yw’r ffermwyr yn gwasgaru gwrtaith ar eu caeau yn agos at afonydd neu ar dir a ddefnyddir fel porfa, i osgoi lledaenu clefydau. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Agweddau allweddol Lles anifeiliaid: Mae’r safonau’n gofyn bod anifeiliaid: yn cael eu trin yn ofalus a thrugarog a’u harchwilio’n rheolaidd; yn cael meddyginiaeth yn syth ar ôl derbyn cyngor gan filfeddyg; yn cael eu bwydo â phorthiant diogel a sicr, a’u cludo mewn trelars sydd â nod sicrwydd i leihau’r straen a’r risg o anafu’r anifail; eu cadw mewn adeiladau glân a diogel gydag anifeiliaid o faint/oedran tebyg, a bod dŵr glân, ffres ar gael iddynt bob amser. Gwlad tarddiad: Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r rhan fwyaf o fwyd gynnwys label yn nodi gwlad tarddiad, er nad yw hwn bob amser yn hawdd ei weld. Mae logo’r Tractor Coch yn cynnwys datganiad o darddiad ar ffurf baner, a phan welwch chi Jac yr Undeb gallwch fod yn siŵr bod y bwyd wedi dod o ffermydd yn y Deyrnas Unedig. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Llaeth Tractor Coch Nod Cynllun Sicrwydd Ffermydd Llaeth y Tractor Coch yw cynnal, datblygu a hyrwyddo safonau sicrwydd o fewn y diwydiant llaeth. Y nod yw rhoi hyder i ddefnyddwyr a manwerthwyr yn rhinweddau ac ansawdd y llaeth sy’n gadael y fferm, gan gynnwys diogelwch bwyd, lles anifeiliaid, ac amddiffyn yr amgylchedd. Cynhyrchir llaeth cynllun Sicrwydd Ffermydd Llaeth y Tractor Coch ym Mhrydain, ar ffermydd sydd wedi’u rheoli gan stocmyn cymwysedig a gofalgar. Mae ardystiad safonau Cynllun Sicrwydd Ffermydd Llaeth y Tractor Coch yn caniatáu i gynhyrchwyr ddangos bod eu safonau hwsmonaeth a lles yn cwrdd â lefelau arfer amaethyddol gorau a gytunwyd yn genedlaethol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Darperir sicrwydd o fewn y sector llaeth drwy set gynhwysfawr o safonau sy’n sicrhau bod y llaeth ar ffermydd sicrwydd llaeth yn cael ei gynhyrchu a’i storio mewn dull diogel a glân, nad oes yna unrhyw gyfaddawdu o ran lles y gwartheg, bod modd adnabod ac olrhain yr anifeiliaid, ac nad yw gweithgareddau’r fferm laeth yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma: http: //assurance. redtractor. org. uk /rtassurance/schemes/resources/ Records/dairy. eb
Astudiaeth achos 2: LEAF Marque Sefydlwyd LEAF (Linking Environment and Farming) yn 1991 yn sgil pryder ynghylch dyfodol ffermio. Mae LEAF yn hyrwyddo ffermio ecogyfeillgar, gan gynorthwyo ffermwyr i gynhyrchu bwyd da, gyda gofal, a hyd safonau amgylcheddol uchel. Mae LEAF yn elusen annibynnol sy’n ymrwymo i hyrwyddo enw da bwyd Prydeinig, ac mae’n cynghori ffermwyr a thyfwyr ar y modd y gallant gwrdd â’r safonau llym fydd yn caniatáu iddyn nhw arddangos y LEAF Marque ar eu cynnyrch. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae’r LEAF Marque ar fwydydd yn gwarantu bod y cynhyrchydd yn rhedeg ei fusnes a’i dechnegau cynhyrchu mewn ffordd ecogyfeillgar. Mae LEAF Marque yn system safoni ardystiedig annibynnol a gydnabyddir yn fyd-eang, a ddatblygwyd gan LEAF. Mae’n seiliedig ar egwyddorion ffermio cynaliadwy Rheolaeth Fferm Integredig LEAF. Mae dull Rheolaeth Fferm Integredig (IFM) LEAF yn cyfuno elfennau o ddulliau ffermio traddodiadol â thechnoleg fodern, gan alluogi ffermwyr i reoli’u ffermydd mewn ffordd wybodus, broffesiynol ac ystyriol. Mae IFM yn annog ffermwyr i gynnal y safonau uchaf wrth gynhyrchu bwyd, gan effeithio cyn lleied â phosib ar yr amgylchedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae cynnyrch sy’n arddangos y LEAF Marque wedi’i gynhyrchu gan ffermwyr sydd wedi ymrwymo i wella amaethyddiaeth a’r amgylchedd yn barhaus, er budd ffermwyr, defnyddwyr, bywyd gwyllt a chefn gwlad fel ei gilydd. Yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, mae yna 487 o dyfwyr yn ffermio 223, 141 hectar sydd wedi’i ardystio â’r safon LEAF Marque. Mae’r fferm gyfan yn cael ei harchwilio yn erbyn y safon LEAF Marque i gadarnhau bod yr holl gynnyrch wedi’i gynhyrchu mewn ffordd sy’n ystyriol o’r amgylchedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae’r fenter LEAF yn annog ffermwyr i wneud mwy i amddiffyn a gwella cefn gwlad, drwy gadw at gyfres o egwyddorion rheolaeth fferm integredig gan gynnwys: • Rheoli pridd yn effeithlon a thechnegau amaethu priodol; • Cylchdroi cnydau; • Dewis mathau o hadau’n ofalus; • Ymrwymiad i les anifeiliaid a chynefinoedd bywyd gwyllt; • Ailgylchu gwastraff fferm a chynilo ynni; • Gwella effeithlonrwydd ac ansawdd dŵr; • Defnyddio plaladdwyr a gwrtaith artiffisial pan fo gwir angen yn unig; • Cynnal y dirwedd a chymunedau gwledig. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 I gael gwybod mwy am y LEAF Marque, dilynwch y ddolen hon: http: //www. leafuk. org/leaf/ farmers/LEAFmarquecertific ation/standard. eb
Amcanion LEAF Marque Mae amcanion LEAF Marque yn cynnwys: • Datblygu a hyrwyddo Rheolaeth Fferm Integredig (IFM) ymhlith ffermwyr fel system ffermio sy’n realistig ac ymarferol, sy’n cael effaith bositif ar ffermio a’r amgylchedd. Mae IFM yn strategaeth tyfu cnydau a magu da byw lle mae’r ffermwr yn ceisio cynnal a gwella’r amgylchedd, tra’n cynhyrchu bwyd diogel a maethlon yn economaidd. Ei nod hirdymor yw cyflenwi anghenion y defnyddiwr, y gymdeithas, yr amgylchedd a’r ffermwr hyd yr eithaf; • Hyrwyddo buddiannau IFM ymhlith defnyddwyr, a chodi ymwybyddiaeth o’r ffordd mae nifer o ffermwyr yn ymateb i bryderon presennol am yr amgylchedd; • Hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu bwyd maethlon, fforddiadwy, sydd wedi’i dyfu’n ofalus gan ffermwyr sy’n ystyried bod eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad yn un bwysig. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae LEAF Marque yn system safonau sy’n sicrhau bwyd a ffermio cynaliadwy drwy fabwysiadu Rheolaeth Fferm Integredig LEAF, sy’n galluogi’r defnyddiwr i brynu bwyd cynaliadwy drwy ddewis y label LEAF Marque. Mae cynnyrch sy’n arddangos logo LEAF Marque wedi bod trwy gynllun sicrwydd sy’n golygu ei fod wedi’i gynhyrchu gan ffermwyr sy’n gofalu am yr amgylchedd. Mae LEAF Marque yn safon a gydnabyddir gan y diwydiant yn fyd-eang, ac mae ar gael mewn pedair iaith ar hyn o bryd, sef Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg. Mae’n safon amgylcheddol lefel uwch ac mae’n ofyniad bod y cynhyrchydd yn aelod ardystiedig llawn o gynllun sicrwydd priodol, ar gyfer pob menter ar y fferm. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
LEAF Marque - Caws Trwy gadw at y safonau a osodir yn ein system rheolaeth fferm integredig, mae nifer o ffermwyr llaeth wedi sicrhau’r LEAF Marque. Mae nifer yn arddangos hwn ar y caws a wnânt o’r llaeth a gynhyrchir ganddynt. Mae rhai ffermwyr llaeth yn credu bod LEAF Marque yn gymorth unigryw i werthu cynnyrch, sy’n rhoi sicrwydd i’r cwsmer ynghylch ei darddiad yn ogystal â’r ystyriaeth i’r amgylchedd. Mae’r cynllun yn sicrhau bod cynnyrch ffermwyr LEAF Marque wedi’i ffermio gan ofalu am ddyfodol ein hamgylchedd, bywyd gwyllt, cefn gwlad, bwydydd ac anifeiliaid. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Dyfyniad gan ffermwr: Yn sgil ymgymryd ag Archwiliad LEAF atgyfnerthwyd ein polisi o brynu bwyd yn lleol – ry’n ni’n prynu’n ffa a’n gwenith oddi wrth gymdogion. Trwy ddefnyddio ffa maes a lleihau’n ddirfawr ein dibyniaeth ar soia wedi’i fewnforio, rydym wedi helpu’r economi leol, wedi lleihau ein hôl troed carbon ac yn dal i redeg busnes effeithlon. Credwn hefyd ein bod yn cynhyrchu caws gwell o laeth a gynhyrchir o fuchod sy’n cael eu bwydo ar ffa maes. Mae LEAF Tracks yn ychwanegu rhif at y logo LEAF Marque sy’n golygu y gall defnyddwyr ganfod pwy sydd wedi cynhyrchu’u cynnyrch LEAF Marque ardystiedig, a ph’un ai y gellir ymweld â’r fferm. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Astudiaeth achos 3: Annibynnol Mae rhai manwerthwyr yn rhedeg eu cynlluniau sicrwydd eu hunain. Er enghraifft, roedd ymchwil a gynhaliwyd gan Sainsbury’s ymhlith ei gwsmeriaid ei hun yn awgrymu eu bod o’r farn bod gormod o logos yn peri dryswch, ac felly mae wedi cael gwared yn raddol â’r defnydd o’r Tractor Coch ar becynnau. Fodd bynnag, mae safonau’r Tractor Coch yn cael eu defnyddio fel rhan o’u safonau tarddiad bwyd ehangach. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae gan yr archfarchnad ei Grŵp Datblygu Llaeth ei hun, a gyflwynwyd gyntaf yn 2007. Y nod yw gosod pris teg am y llaeth, gan gynnwys bonws am lefelau uchel o les anifeiliaid a gwella ôl troed carbon. Mae’r grŵp yn cynnwys 315 o ffermydd llaeth ar draws Lloegr, Yr Alban a Chymru. Mae eu cadwyn cyflenwi llaeth yn caniatáu iddyn nhw adnabod bob fferm a ffermwr maent yn prynu ganddynt, i gwrdd â’u hymrwymiadau amgylcheddol, a pharhau i wella lles anifeiliaid tra’n darparu cynnyrch masnachol ymarferol o ansawdd uchel. Mae’r holl laeth yn arddangos y logo ‘A Taste of Britain’ i ddangos ei fod yn dod o Brydain. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Grŵp Datblygu Llaeth Mae gwaith y Grŵp Datblygu Llaeth yn cynnwys ystyriaethau amgylcheddol, megis mesuriadau ôl troed carbon. Roedd y prosiect ôl troed carbon yn golygu bod ymgynghorydd amgylcheddol annibynnol yn archwilio pob fferm laeth. Roedd yr archwiliadau’n edrych ar bob agwedd o’r fferm ac yn mesur mewnbynnau fel trydan, porthiant, peiriannau a defnydd o danwydd. Yn dilyn pob archwiliad, cynhyrchwyd adroddiad ôl troed carbon ar gyfer ffermydd unigol, ynghyd â cherdyn sgôr amgylcheddol. Mae’r cerdyn sgôr yn nodi meysydd angen eu gwella a rhaglen fanwl ar gyfer gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yna mae bob ffermwr yn cael cyfarwyddyd ar roi’r rhain ar waith. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae rhai o’r gostyngiadau ynni ac allyriadau wedi dod yn sgil mesurau syml, fel cynilo dŵr glaw i’w ailddefnyddio. Llwyddodd ffermwyr eraill i gael mwy o laeth o bob buwch trwy wneud defnydd mwy effeithlon o borthiant, neu reoli’u dulliau o wasgaru gwrtaith artiffisial a thail buarth yn wahanol. Canfu’r prosiect nad y ffermydd oedd yn cynhyrchu’r mwyaf o laeth oedd â’r ôl troed carbon uchaf bob tro. Trwy’r cynllun maent wedi dangos sut y gall ffermydd mwy effeithlon fod yn well i’r amgylchedd yn ogystal â bod yn fusnesau mwy llwyddiannus. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiynau Adran 1: Dirnadaeth a hyder y defnyddiwr mewn bwyd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Pa agwedd o’r gadwyn fwyd oedd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl y dylai’r llywodraeth fod yn atebol amdani? Iechyd Cynaladwyedd Hyrwyddo bwyd sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig Sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Pa ffactor oedd ar frig y rhestr o bethau fyddai’n annog y defnyddiwr i ymddiried mewn bwyd? Tystysgrif lles anifeiliaid Tarddiad y cynnyrch ar y pecyn Cynhwysion Prydeinig Dim cynhwysion artiffisial © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Beth yw’r ffactor pwysicaf sy’n dylanwadu ar ddewisiadau prynu’r defnyddiwr yn ôl ymchwil? Ymgyrchoedd hyrwyddo Pris Ansawdd neu berfformiad Blas neu arogl © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 4 Beth yw’r ffactor sy’n dylanwadu lleiaf ar ddewisiadau prynu’r defnyddiwr yn ôl ymchwil? Dyddiad defnyddio neu werthu erbyn Brand Opsiwn iach Wedi’i gynhyrchu’n foesegol neu’n eco-gyfeillgar © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 5 Pa gynlluniau labelu amgylcheddol a moesegol mae pobl yn fwyaf ymwybodol ohonynt? Masnach Deg Organig Tractor Coch Bwyd Rhyddid (Freedom Food) © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiynau Adran 2: Olrheiniadwyedd, diogelwch ac ansawdd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Pwy sy’n gyfrifol am wella diogelwch bwyd ar hyd holl gadwyn fwyd y Deyrnas Unedig? Archfarchnadoedd Cynhyrchwyr Asiantaeth Safonau Bwyd Ffermwyr © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Pa un o’r canlynol yw’r fframwaith ar gyfer holl ddeddfwriaeth bwyd Prydain? Rheoliad Cyfraith Bwyd Cyffredinol (GE) 178/2002 Y Rheoliadau Bwyd Cyffredinol (2004) Rheoliadau Glendid Bwyd (2006) Y Ddeddf Diogelwch Bwyd (1990) ddiwygiedig © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Pa un o’r canlynol sydd DDIM yn drosedd dan y gyfraith a rheoliadau bwyd? Disgrifio neu gyflwyno bwyd mewn ffordd dwyllodrus Labelu, hysbysebu a chyflwyno bwyd mewn ffordd sy’n gamarweiniol Bod yn aelod o gynllun sicrwydd bwyd Gosod bwyd sy’n anniogel ar y farchnad © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 4 Pwy sydd angen i fusnesau bwyd eu hysbysu os oes angen tynnu neu alw cynnyrch bwyd yn ôl? Y cyfryngau Y Comisiwn Ewropeaidd Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’u Hawdurdod Lleol © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 5 Pa un o’r canlynol sydd ddim yn disgrifio olrheiniadwyedd? Olrheiniadwyedd yw deall ble mae bwyd wedi’i gynhyrchu a’i brosesu trwy ei gadwyn fwyd. Gallai olrheiniadwyedd ddisgrifio o ble mae darn o ffrwyth yn tarddu neu leoliad y fferm laeth ar gyfer carton o laeth. Olrheiniadwyedd yw gwybod beth yw’r gwahanol gamau cynhyrchu a gallu olrhain yn ôl trwy’r gadwyn. Cynlluniau ardystio cynnyrch sy’n defnyddio archwiliadau annibynnol rheolaidd i wneud yn siŵr bod aelodau’n cwrdd â safonau penodol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiynau Adran 3: Astudiaethau achos – cynlluniau sicrwydd bwyd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Pa gynllun sicrwydd bwyd mae’r logo hwn yn ei gynrychioli? Masnach Deg LEAF Marque Y Tractor Coch Grŵp Datblygu Llaeth Sainsbury’s © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Pa un o’r canlynol sydd ddim yn rhan o Gynllun Rheolaeth Bwyd Integredig LEAF Marque. Ffermio organig Hwsmonaeth anifeiliaid Iechyd ac amddiffyn cnydau Rheoli dŵr © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Pa gynllun sy’n defnyddio’r logo ‘A taste of Britain’? Y Tractor Coch Grŵp Datblygu Llaeth Sainsbury’s Bwyd Rhyddid (Freedom Food) LEAF Marque © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 4 Nid yw’r safon LEAF Marque ar gael yn un o’r ieithoedd canlynol, pa un? Saesneg Eidaleg Sbaeneg Almaeneg © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 5 Faint o archwilwyr sy’n gweithio ar gynllun y Tractor Coch? 250 350 450 550 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www. foodafactoflife. org. uk Datblygwyd yr adnodd hwn gan Sefydliad Maetheg Prydain a chafodd gefnogaeth gan sefydliad sector llaeth Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), sef Dairy. Co. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
British Nutrition Foundation Imperial House 15 -19 Kingsway London WC 2 B 6 UN Telephone: 020 7557 7930 Email: postbox@nutrition. org. uk Web: www. nutrition. org. uk www. foodafactoflife. org. uk © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
505b0d66fd10994b736b2a2370174f8f.ppt