ed00f1d9aae2ffa72892262e01eef0ac.ppt
- Количество слайдов: 30
Hanes Moses (Rhan 1). Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies
Cynnwys Dewis Stori Cwis Gwybodaeth ddefnyddiol Cliciwch ar fotwm chwith y llygoden i wneud eich dewis
DEWIS STORI 1. Gormesu’r Israeliaid yn yr Aifft 2. Genedigaeth Moses 3. Moses yn ffoi o’r Aifft 4. Y berth yn llosgi
Arhosodd Joseff a’i deulu yn yr Aifft am weddill eu hoes. Cofiwch mai o wlad Canaan y daethoch chi a dyna ble rwy’ i am gael fy nghladdu.
Bu Joseff farw yn 110 oed. Eneiniwyd ei gorff, a nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach cariwyd ei esgyrn yn ôl i wlad Canaan i’w claddu.
Arhosodd pobl Israel (sef teulu Jacob) yn yr Aifft ac roedden nhw’n cael mwy a mwy o blant. Cynyddodd yr Israeliaid gan ddod yn bobl gryf a niferus.
Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth Pharo newydd i deyrnasu ar yr Aifft. Doedd e ddim yn gwybod dim am Joseff a’r help a gafwyd ganddo adeg y newyn. Roedd y Pharo yn poeni bod llawer gormod o bobl ddieithr yn y wlad. Roedd e’n poeni hefyd y gallai pobl Israel ymuno â gelynion yr Aifft a dechrau ymladd yn eu herbyn.
Felly, fe wnaeth Pharo fywydau’r Israeliaid yn anodd ac fe gawson nhw eu gorfodi i weithio’n galed.
Yn ychwanegol at hyn, gorchmynodd Pharo bod pob bachgen a anwyd i’r Israeliaid yn cael ei daflu i’r Afon Nîl.
Un diwrnod, ganwyd mab i ferch o’r enw Jochebed. Roedd hi’n un o’r Israeliaid ac am dri mis llwyddodd i guddio’r baban bach. .
Yna, rhoddodd yr un bach mewn cawell a dweud wrth ei merch Miriam i’w guddio ynghanol y brwyn ar lan Afon Nîl.
Un o blant yr Israeliaid yw hwn. Ond pwy ddaeth heibio a darganfod y baban ond merch Pharo!
Hoffech chi gael rhywun i ofalu am y baban? Rwy’n gwybod am berson fyddai’n gwneud y gwaith yn dda.
Cytunodd y dywysoges i roi’r baban yng ngofal ei fam a rhoi tâl iddi am ei gwaith. Aeth Miriam a galw’i mam. … Enwodd y dywysoges y baban yn Moses.
Magwyd Moses fel mab i’r dywysoges a chafodd yr addysg orau posib. Actau 7: 22 Er hyn, roedd Moses bob amser yn cofio mai un o bobl Israel oedd e ac nid un o’r Eifftwyr. Hebreaid 11: 24 Roedd gan Moses ffydd yn yr Arglwydd Dduw ac roedd e’n credu y byddai Duw yn cadw’i addewid i ddod â phobl Israel allan o’r Aifft.
Un diwrnod, gwelodd Moses Eifftiwr yn taro un o’r Israeliaid yn ddidrugaredd.
Aeth Moses i’w amddiffyn ac fe drawodd yr Eifftiwr mor galed nes iddo’i ladd. Ond yn anffodus i Moses, roedd un o’r Israeliaid wedi gweld beth ddigwyddodd.
Trannoeth, aeth Moses i ymyrryd mewn dadl rhwng dau o’r Israeliaid. Wyt ti am ein lladd ni fel y gwnest ti ladd yr Eifftiwr ‘na ddoe?
Pan glywodd Pharo beth roedd Moses wedi’i wneud, ceisiodd ei ladd.
Ond roedd Moses yn ddigon pell o’r Aifft. Roedd wedi ffoi i wlad Midian, ac yno eisteddodd i lawr wrth ymyl pydew.
Daeth saith o ferched i’r pydew i godi dŵr ar gyfer eu praidd. Pan ddaeth bugeiliaid heibio a’u rhwystro, cododd Moses ar ei draed i amddiffyn y merched.
Daeth Eifftiwr i’n hamddiffyn rhag y bugeiliaid, a rhoddodd ddŵr i’r praidd. Sut y daethoch chi nôl mor fuan heddiw?
Diolch i ti am dy help. Mae croeso i ti aros gyda ni mor hyr ag wyt ti’n dymuno.
Cytunodd Moses i aros gyda’r gŵr, a rhoddodd hwnnw ei ferch Seffora yn wraig iddo.
Yn y cyfamser, roedd pobl Israel yn parhau i ddioddef yn yr Aifft. Clywodd yr Arglwydd eu gwaedd am help. Dewisodd Moses i fynd i’w gwared o’u caethiwed.
Un dydd, wrth i Moses ofalu am ddefaid ei dad yng nghyfraith, digwyddodd rhywbeth rhyfedd…. Moses, Moses…
Dos nôl i’r Aifft i arwain fy mhobl allan o’r wlad.
1 J JJ 7 13 L 19 J 25 J 31 J DOUBLE 2 3 4 5 6 L JJ J L JJ 8 JJ 10 11 12 J 9 L L J 14 15 16 17 18 J J L 20 JJ 22 23 24 J 21 J L J 26 27 28 29 30 J L J J L 32 33 34 JJ 36 J L J 35 J DOUBLE DOUBLE
2 3 4 J J L 8 9 J J L 10 JJ 15 16 14 L J 20 21 22 J JJ 26 27 28 25 J J L JJ 32 JJ 34 31 L 33 J 1 L 7 L 13 L 19 L DOUBLE 5 6 J L JJ 12 11 J 17 18 J J 23 24 J J 29 30 J J JJ 36 35 J DOUBLE
Gwybodaeth ddefnyddiol… …Y Stori Bwriedir i’r stori gael ei chyflwyno mewn 4 rhan. Gallwch naill ai gyflwyno stori unigol neu fynd yn eich blaen a chyflwyno mwy nag un stori ar y tro. Y Cwis Rhifau • Bydd angen eich bod wedi paratoi hyd at 20 cwestiwn. Rhannwch y plant yn ddau dîm a holwch gwestiynau i’r naill dîm a’r llall. • Ar ôl i blentyn ateb yn gywir bydd angen iddo ddewis rhif. Defnyddiwch y llygoden i symud y saeth i’r sgwâr priodol a chliciwch ar y botwm chwith. Bydd y sgwâr yn datgelu un o’r symbolau canlynol: sy’n dynodi 1 pwynt; sy’n dynodi 2 bwynt; neu sy’n dynodi 0 pwynt. J JJ DOUBL E L Mae dau gwis gwahanol ar gael. Er mwyn symud o’r naill i’r llall defnyddiwch y saeth ymlaen neu’r saeth yn ôl ar y cyfrifiadur. Bydd y botwm cartref yn mynd â chi yn ôl i’r dudalen Cynnwys.


