838d3d0e8102ca0b2b19180b4d06b8d0.ppt
- Количество слайдов: 101
Effaith ffermio © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Amcanion dysgu Gwerthfawrogi cyfraniad ffermio i economi’r Deyrnas Unedig. Deall statws presennol ac effaith ffermio llaeth ym Mhrydain. Cydnabod cyfraniad ffermio llaeth ym Mhrydain i’r economi. Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a gyrfaoedd ym myd ffermio. Deall rôl ffermio, a ffermio llaeth, mewn perthynas â’r amgylchedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Croeso I archwilio’r testun hwn, cliciwch ar yr eiconau canlynol. Mae’r rhain i’w gweld ar waelod bob sgrin. Mynd yn ôl i’r dudalen gartref Mynd i’r dudalen flaenorol Mynd i’r dudalen nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Prif ddewislen (cartref) Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. Mae cwestiynau ar gael ar gyfer pob adran hefyd. Adran 1: Ffermio yn y Deyrnas Unedig Cwestiynau Adran 2: Y diwydiant ffermio llaeth Cwestiynau Adran 3: Y cyfraniad i’r economi Cwestiynau Adran 4: Y cyfraniad i gyflogaeth Cwestiynau Adran 5: Y cyfraniad i’r amgylchedd Cwestiynau © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Diwedd
Adran 1: Ffermio yn y Deyrnas Unedig Yn 2011, cyfrannodd y sector bwydamaeth £ 95 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig, tua 7% o’r gwerth ychwanegol gros cenedlaethol. O fewn hwn, roedd gweithgynhyrchu, manwerthu ac arlwyo dibreswyl yn cyfrif am oddeutu chwarter yr un. Roedd cyfanwerthu bwyd yn cyfrif am 9. 6% o’r sector ac amaethyddiaeth am 9. 1%. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Yn 2012 roedd yr incwm cyfan o ffermio yn £ 4. 7 biliwn, sef gostyngiad o 14% mewn termau real ers 2011 ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant. Yn yr un modd disgynnodd yr incwm cyfan o ffermio fesul uned waith amaethyddol o 14% mewn termau real, i £ 25, 175 yn 2012. Ffactor allweddol mewn perthynas â’r gostyngiad mewn incwm cyfan oedd y tywydd gwael a gafwyd yn 2012. Cynyddodd y cyfanswm oedd yn gweithio ar ffermydd o bum mil o weithwyr rhwng 2011 a 2012, ac erbyn hyn mae’n 481, 000. Gwelwyd cynnydd bach ar draws y rhan fwyaf o fathau o lafur, gyda’r cynnydd mwyaf yn nifer y gweithwyr achlysurol, a gododd o 6. 9% i 67, 000. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Agriculture in the UK, Defra (2012) https: //www. gov. uk/government/ publications/agriculture-in-theunited-kingdom-2012
Y diwydiant Mae’r sector amaeth, coedwigaeth, pysgota a milfeddygaeth yn bwysig iawn i economi’r Deyrnas Unedig, am ei fod yn gyfrifol am gyflenwi bwyd, ac mae’n helpu i ofalu am ein hamgylchedd ffisegol, gan gyfrannu’n sylweddol at yr agenda carbon isel, cynaladwyedd a’r newid yn yr hinsawdd. Mae yna 145, 000 o fusnesau i gyd ac mae’r sector yn cynnwys busnesau gyda rhwng dau a phedwar o weithwyr yn bennaf, gyda mwy o weithwyr hunangyflogedig na chyflogedig. Yn nhermau’r rhywiau, mae cryn dipyn yn fwy o ddynion na merched o fewn y sector; fodd bynnag, nid yw hyn yn gyson ar draws yr holl ddiwydiannau oherwydd ceir mwy o ferched na dynion yn gweithio o fewn milfeddygaeth. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae’n golygu cynhyrchu bwyd yn unig? Mae cynhyrchu bwyd ar ffermydd yn y Deyrnas Unedig nid yn unig yn darparu rhan fawr o ddeiet y genedl, ond hefyd yn darparu mewnbynnau hanfodol ar gyfer gweithgynhyrchu, cyfanwerthu, manwerthu, arlwyo ac allforio, a’r farchnad ar gyfer y diwydiant cyflenwadau amaethyddol. Cyflogwyd 1. 67% o weithlu’r Deyrnas Unedig o fewn y sector amaeth, ond cyflogwyd 13. 9% o’r gweithlu o fewn y sector bwyd-amaeth yn 2011. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Yn 2011, roedd allforion bwyd, porthiant a diodydd yn cyfrif am 6. 1% o’r holl allforion yn ôl gwerth – er bod y rhan fwyaf o’r rhain wedi’u ‘prosesu’n ddwys’ (3. 46%) neu wedi’u ‘prosesu’n gynnil’ (2. 08%), gyda 0. 56% ‘heb eu prosesu’ (h. y. yn dod yn uniongyrchol o’r fferm yn ôl pob tebyg). Cyfrannodd y diwydiant cyflenwadau amaethyddol tua 0. 08% o’r gwerth ychwanegol gros, gan gyflogi 0. 04% o’r gweithlu. Yn ogystal, mae ffermwyr yn gweithio i gynnal a gwella cefn gwlad, gan weithio mewn partneriaeth i gefnogi’r gwaith o gynyddu bioamrywiaeth ar ffermydd, treialu a gweithredu strategaethau ar gyfer cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a chynnal safonau uchel gyda golwg ar les anifeiliaid. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Er bod yna dystiolaeth o gefnogaeth gref i ffermwyr, mae yna dystiolaeth hefyd nad yw defnyddwyr yn gwybod rhyw lawer am ffermio. Er enghraifft, yn ôl canlyniadau pôl piniwn You. Gov: • Nid oedd 72% o’r ymatebwyr yn gwybod rhyw lawer, neu unrhyw beth, am ffermio; • Roedd 10% yn gwybod, o fewn 10%, beth oedd arwynebedd y tir sy’n cael ei ffermio’n genedlaethol, gyda’r amcangyfrif cymedrig oddeutu 35% (o’i gymharu â’r ffigwr go iawn o 74%). Farming’s value to society, Oxford conference report 2013 http: //www. ofc. org. uk/files/ofc/papers /ofcreportfulllow. pdf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Adran 2: Y diwydiant ffermio llaeth Mae llaeth 1. 81 miliwn o fuchod, sydd dan ofal dros 50, 000 o ffermwyr a gweithwyr fferm yn cael ei droi’n gynnyrch llaeth gan 26, 000 o bobl sy’n gweithio o fewn safleoedd gweithgynhyrchu llaeth ym Mhrydain. Yna mae llaeth a chynnyrch llaeth yn cael ei werthu i ddefnyddwyr Prydain mewn 85, 720 o siopau manwerthu a 262, 000 o leoliadau gwerthu bwyd, ac yn cael ei fwynhau gan filoedd ym Mhrydain a ledled y byd, i greu cyfanswm gwerthiant blynyddol o £ 9. 81 biliwn. Cynllun Mapio Llaeth, 2013 http: //www. dairyco. org. uk/resour ces-library/researchdevelopment/environment/dairyroadmap-2013/#. Uuefw_n. FLs 0 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Trosolwg o’r diwydiant Gostyngodd nifer ffermydd llaeth y Deyrnas Unedig ar raddfa arafach yn 2012 na 2011. Ym Mehefin 2012, roedd yna 14, 549 o ffermydd llaeth yn y Deyrnas Unedig, sef 1. 7% (244) yn llai nag yn 2011. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae nifer y ffermwyr llaeth yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 43%. Yn Yr Alban, mae nifer y ffermwyr llaeth wedi gostwng 29%, ac yng Ngogledd Iwerddon, 42%. Er bod nifer y ffermydd wedi gostwng, bu cynnydd yn lefelau’r llaeth a gynhyrchwyd ar gyfartaledd. Mae hyn o ganlyniad i well arferion gwaith, a chynnydd yn lefelau’r llaeth a gynhyrchir gan bob fuwch yn sgil geneteg, deiet a lles yr anifail. Yn 2002, roedd y cyfartaledd yn 6, 493 litr y fuwch y flwyddyn o’i gymharu â 7, 445 yn 2012, sef cynnydd o 14. 6%. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 UK Dairy farm numbers
Yn 2012/13, roedd lefelau’r llaeth a gynhyrchwyd yn y Deyrnas Unedig 3. 9% (520 miliwn litr) yn is na’r flwyddyn laeth flaenorol, sef yr isaf ers 2009/10. Roedd hynny o ganlyniad i’r tywydd gwael a gafwyd yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn honno. Gostyngodd lefelau’r llaeth a gynhyrchwyd ym Mhrydain 4. 1% yn 2012/13 o’i gymharu â’r flwyddyn laeth flaenorol. Gostyngodd lefelau’r llaeth a gynhyrchwyd yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn 2012/13, ond ar ganran llai, sef 2. 6%, (53 miliwn litr). © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Gostyngodd lefelau’r llaeth a gynhyrchwyd yn 2012 er na fu fawr ddim newid yn nifer y buchesi llaeth. Cafodd y tywydd gwael yn ystod ail hanner y flwyddyn effaith ar ansawdd a maint y porthiant, gan olygu bod llai o laeth yn cael ei gynhyrchu, mewn gwrthgyferbyniad i’r lefelau cynhyrchu uwch yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Gall pris y llaeth amrywio trwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i effaith y tywydd, cnydau pitw, cynnydd ym mhrisiau bwydydd anifeiliaid a chostau cynhyrchu eraill Y tywydd gwael yw’r rheswm dros gadw buchod dan do, gan sicrhau eu bod yn ddiogel, bod bwyd a dŵr ganddynt, a’u bod yn dal ati i gynhyrchu llaeth. Dyma’r prif reswm dros systemau dan do. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 UK average farm gate milk prices (ppl = price per litre)
Er bod llai o laeth ar gael, cynyddodd y gwerth cynhyrchu yn 2012. Cytunwyd ar Y Cod Ymarfer Gwirfoddol ar gyfer y Diwydiant Llaeth ym mis Awst, gan olygu y byddai contractau rhwng ffermwyr â phroseswyr llaeth yn y dyfodol yn cael eu trafod yn agored, yn decach ac yn gliriach, ac arweiniodd hynny at gynnydd ym mhris y llaeth tua diwedd y flwyddyn, gyda’r prisiau uchaf erioed yn cael eu cofnodi yn Nhachwedd a Rhagfyr. Bach oedd y meintiau elw o hyd fodd bynnag, yn sgil gorfod dibynnu mwy ar borthiant oherwydd yr amodau pori gwael, a chafodd costau cynyddol eraill cysylltiedig effaith ar broffidioldeb. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Marchnad laeth y Deyrnas Unedig Roedd marchnad laeth y Deyrnas Unedig oddeutu 13. 5 biliwn litr yn 2012. Roedd 6. 8 biliwn litr o hwnnw’n llaeth yfed, a defnyddiwyd 6, 089 biliwn litr i greu cynnyrch fel caws ac iogyrt. Ar lefel fyd-eang, mae maint y llaeth a gynhyrchir yn parhau i gynyddu, ac roedd yn 588 biliwn litr yn 2011. Cynhyrchwyd bron i chwarter (24. 8%) holl gyflenwad llaeth y byd o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn 2011 (145. 8 biliwn litr). Y Deyrnas Unedig yw’r 9 fed cynhyrchwr llaeth mwyaf yn y byd (2. 4% neu 13. 8 biliwn litr). Y pum cynhyrchwr llaeth mwyaf yw’r Unol Daleithiau, India, Tsieina, Ffederasiwn Rwsia a Brasil. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Trosolwg o ffermio llaeth – yr ystadegau UK dairy cow numbers UK average herd size UK dairy farm numbers Pa gasgliadau y gellir eu gwneud o’r siartiau hyn? © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Proffidioldeb ffermio llaeth Mae ymchwil i broffidioldeb ffermio llaeth wedi nodi a dadansoddi tair math o fenter allweddol: • • • Buchod ar borfa – system pori’n bennaf sy’n cynhyrchu lefelau is o laeth; Cyfansawdd – gwneud y defnydd eithaf o lafur teulu a dull cymysg o fwydo a lletya; Buchod llaethog – fel arfer cedwir y buchod dan do am gyfnod hirach o’r flwyddyn gan ddefnyddio mwy o fewnbynnau sylweddol. Mae’r lefelau cynhyrchu’n uwch fesul buwch– 8, 465 litr y fuwch o’i gymharu â 5, 741 gyda systemau pori’n bennaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Yn 2012, yn ôl ymchwil: • Roedd yr amrywiaeth o ran prisiau llaeth yn hanner yr amrywiaeth o ran cyfanswm costau cynhyrchu a maint yr elw net; • Mae pedwar maes cost penodol yn esbonio’r lleiafswm o 60% yn y gwahaniaeth rhwng maint elw net y 25% uchaf a’r 25% isaf; • Roedd y ffermydd gorau’n bwydo llai o fwyd fesul litr ac yn gwneud gwell defnydd o borthiant. • Roedd gan y 25% uchaf gyfraddau amnewid is o fewn y fuches yn sgil llai o farwolaethau a chyfraddau difa is; • Gyda’r systemau gwartheg ar borfa a’r systemau cyfansawdd, mae’r costau sefydlog yn esbonio 70% o’r gwahaniaeth yn y costau cynhyrchu cyfan rhwng y ffermydd gorau â’r ffermydd gwaethaf; • Gyda’r system buchod llaethog, y gwahaniaeth yn y costau bwydo oedd yn cael yr effaith fwyaf; • Treulir cryn dipyn yn fwy o oriau llafur fesul buwch ar dasgau gwaith llaw o fewn y 25% isaf gyda phob gwahanol fath o fenter. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Casgliadau Does dim un ffordd ddelfrydol o sicrhau proffidioldeb; cadw’r costau i lawr drwy reoli’n effeithiol yw’r allwedd. Mae sicrhau’r perfformiad mwyaf costeffeithiol yn golygu cofnodi a monitro perfformiad yn rheolaidd a gwneud defnydd effeithiol o ddata. Does dim un gyfradd amnewid ddelfrydol ar gyfer buches, ac mae deall y rhesymau dros amnewid yn bwysicach na’r nifer. Mae’n bwysig cynnal lefel o gostau sefydlog sy’n briodol i lefel y llaeth a gynhyrchir. Dylai unrhyw fuddsoddiad anelu at gynyddu’r lefelau cynhyrchu a lleihau’r costau cynhyrchu fesul uned. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Incwm busnesau ffermio llaeth Ar gyfer ffermio llaeth, yr incwm busnes cyfartalog yn 2012/13 oedd £ 50, 000 y fferm (Lloegr), £ 52. 4, 000 (Cymru), £ 80. 2, 000 (Yr Alban) a £ 27. 5, 000 (Gogledd Iwerddon). Defra, Incwm busnesau fferm Rhagwelir y bydd incwm cyfartalog busnesau fferm yn gostwng yn sylweddol. Cynyddodd y prisiau llaeth cyfartalog o tua 1% dros gyfnod o 12 mis ac mae prisiau gwartheg i’w difa, gwartheg stôr a gwartheg tewion wedi codi hefyd. Fodd bynnag, disgwylir y bydd angen gosod hyn yn erbyn costau uwch, yn enwedig porthiant. Rhagwelir y bydd y gostyngiad yn incwm ffermydd llaeth yn fwy sylweddol yng Ngogledd Iwerddon, oherwydd syrthiodd y prisiau llaeth yno tua 5% yn 2012/13. Defra, 2012 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae data Arolwg Busnesau Fferm 2011/12 yn dangos bod incwm cyfartalog busnesau ffermio (FBI) yn £ 608/hectar (ha), ac ar gyfer fferm o faint cyfartalog, mae hynny’n gyfystyr ag incwm o tua £ 86, 750, sef cynnydd o 31% ers 2010/11. Cynyddodd incwm Rheoli a Buddsoddi (MII) ffermio llaeth o £ 135/ha i £ 292/ha yn 2011/12. Mae hynny’n gyfystyr ag incwm MII cyfartalog o £ 41, 663 y fferm. Mae canfyddiadau’r Arolwg Busnesau Fferm (2011/2012) yn awgrymu bod y buchesi mwy o faint yn fwy proffidiol ar y cyfan, ac yn gweithredu systemau mewnbwn-allbwn cymharol uchel. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau mawr o ran adenillion economaidd ac effeithlonrwydd technegol rhwng y perfformwyr isaf ac uchaf. Bydd cynhyrchwyr proffidiol yn chwilio am gyfleoedd i ehangu’u busnesau wrth iddyn nhw elwa yn sgil eu heffeithlonrwydd technegol a’u meintiau elw, tra bydd cynhyrchwyr o’r grwpiau isaf eu perfformiad yn parhau i adael y diwydiant yn sgil lefelau incwm anghynaliadwy. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Arolwg Busnesau Fferm 2011/2012 – Ffermio Llaeth yn Lloegr http: //www. fbspartnership. co. uk/documents/2011_12/Dair y_Farming_2011 -12. pdf
Beth yw fferm laeth lwyddiannus? Mae dadansoddiad o berfformiad ffermydd llaeth yn nodi nifer o ffactorau sy’n esbonio’r amrywiaeth o effeithlonrwydd rhwng ffermydd. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys: • Dyledion: mae yna gyswllt cryf rhwng effeithlonrwydd isel â dyledion uchel; • Oed y ffermwr: mae perfformiad busnes y fferm yn cynyddu ychydig gydag oedran, o ganlyniad i brofiad o bosib; • Daliadaeth: mae ffermydd perchennog-breswyl yn perfformio’n well na ffermydd tenantiaeth sydd ar Denantiaeth Amaethyddol Llawn, sydd yn eu tro’n perfformio’n well na’r rhai sydd ar Denantiaeth Busnes Fferm; • Rhostir: mae ffermydd sy’n cynnwys rhostir yn llai effeithlon yn amaethyddol, ond does dim gwahaniaeth sylweddol o ran y busnes fferm cyfan; • Arbenigedd: ar gyfartaledd, mae ffermydd sydd ag ystod o weithgareddau amaethyddol (gan gynnwys y rhai sy’n tyfu’u cnydau porthiant eu hunain ac yn magu lloi llaeth) yn perfformio’n well na’r rhai sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gynhyrchu llaeth, er bod maint y gwahaniaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
• • • Arallgyfeirio: mae arallgyfeirio tu allan i amaethyddiaeth yn cael ei gysylltu â llai o effeithlonrwydd amaethyddol, ond nid yw’n cael unrhyw effaith sylweddol ar effeithlonrwydd busnes; Clwy’r Traed a’r Genau: nid oedd perfformiad amaethyddol ffermydd lle bu difa oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau cystal rhwng 2003 a 2005, ac mae’r effaith niweidiol ar y busnes cyfan fel petai’n para’n hirach; Llafur teulu di-dâl: does dim perthynas arwyddocaol rhwng y gyfran o lafur teulu ag effeithlonrwydd pan fydd llafur ‘di-dâl’ yn cael ei gostio yn ôl ei werth economaidd llawn. Pan gaiff ei gostio yn ôl yr isafswm cyflog, mae ffermydd gyda chyfran uwch o lafur teulu’n perfformio’n well yn nhermau cynnyrch amaethyddol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 FFERMYDD LLAETH: PERFFORMIAD ECONOMAIDD A CHYSYLLTIADAU PHERFFORMIAD AMGYLCHEDDOL: https: //www. gov. uk/government/upl oads/system/uploads/attachment_d ata/file/183529/defra-stats-foodfarmenviron-obs-research-cattle-dairy 130205. pdf
Beth sy’n gwneud fferm laeth perfformiad uchel? Mae arferion rheoli busnes yn gysylltiedig ag effeithlonrwydd economaidd, gyda busnesau perfformiad uchel yn fwy tebygol o: • Ddefnyddio arferion cyfrifo rheolaeth; • Bod â chyfrifiadur a defnyddio’r rhyngrwyd i gyflwyno ffurflenni’n electronig; • Bod â chynllun busnes; • Cynllunio ymlaen gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyfryngau ffermio a thrafodaethau â ffermwyr eraill; • Mabwysiadu strategaethau rheoli risg, yn arbennig gwerthu ar gontract gyda phris cytunedig. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Roedd ffermydd oedd yn rhoi’r gorau i gynhyrchu llaeth yn fwy tebygol o fod: • Yn hŷn na’r cyfartaledd; • Mewn ardal gyda llai o ffermydd llaeth eraill; • llai o incwm cyfatebol o’r cynllun taliad sengl a chynlluniau amaethamgylcheddol; • Yn derbyn pris is na’r cyfartaledd am eu llaeth; • pherfformiad amaethyddol is; • chostau milfeddygol is. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
O’r ffermydd oedd yn parhau i amaethu, daeth y mwyafrif yn ffermydd pori da byw, gyda nifer llai’n cael eu categoreiddio’n ffermydd cymysg, grawnfwyd neu gnydau cyffredinol. Mae dadansoddiad o’r costau’n awgrymu bod rheoli costau’n hanfodol i sicrhau rhywfaint o elw net, gyda’r cynhyrchwyr gorau’n cadw costau’n isel ymhob maes. FFERMYDD LLAETH: PERFFORMIAD ECONOMAIDD A CHYSYLLTIADAU PHERFFORMIAD AMGYLCHEDDOL: https: //www. gov. uk/government/uploads/sy stem/uploads/attachment_data/file/183529/ defra-stats-foodfarm-environ-obs-researchcattle-dairy-130205. pdf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Adran 3: Y cyfraniad i’r economi Gwnaeth y diwydiant amaeth gyfraniad o 0. 65 y cant i economi cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn 2011 fel y’i mesurir gan werth ychwanegol gros y diwydiant amaeth. Ffermio llaeth yw’r sector amaethyddol unigol mwyaf yn y DU, ac mae’n cyfrif am tua 17% o gynnyrch amaethyddol y DU yn ôl gwerth. Yn 2012/13, defnyddiwyd ychydig dros hanner (50. 8%) llaeth amrwd y DU i gynhyrchu llaeth hylif, a 27. 4% i gynhyrchu caws. Hefyd, mae llaeth yn cael ei brosesu’n fwydydd eraill, megis llaeth powdwr, iogyrt, hufen a menyn. Mae’r holl gynhyrchion hyn yn cefnogi gweithgarwch economaidd, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth. Er enghraifft, yn 2012, gwariwyd £ 128. 9 miliwn ar hysbysebu cynnyrch llaeth yn y Deyrnas Unedig – mesur arall o’r gweithgarwch economaidd, yn ogystal â’r ffermio llaeth ei hun. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Dairy farming (Rural Business Research) http: //www. fbspartnership. co. uk/documen ts/2011_12/Dairy_Farming_2011 -12. pdf Defnydd Llaeth y DU – ystadegau llaeth, tud. 39 (gan gynnwys siart) Diwydiannau hysbysebu – ystadegau llaeth, tud. 70 http: //www. lantra. co. uk/Downloads/Rese arch/Research-reports/Agriculture, Forestry-and-Fishing-SSA-2012. aspx
Ffactorau sy’n effeithio ar fusnes llaeth Gofynnwyd i ffermwyr i fanylu ar y prif ffactorau fyddai’n effeithio ar eu busnesau dros y 12 mis nesaf yn eu tyb nhw. Cost mewnbynnau oedd y pryder mwyaf, gyda 49% o holl ffermwyr Prydain yn rhoi’r ateb hwnnw. Daw hyn yn sgil y cynnydd yng nghost mewnbynnau fel bwydydd anifeiliaid, gwrtaith, olew, tir a phrisiau rhent rhwng 2007 a 2012. Y ddau ffactor nesaf ar y rhestr oedd prisiau llaeth a’r tywydd, gyda 38% yn nodi’r naill a 35% y llall. O’i gymharu â’r ymatebion a gafwyd yn arolwg 2012, roedd y ffactorau hyn yn peri pryder i gyfran uwch o’r sampl. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Roedd y tywydd yn cael mwy o sylw erbyn arolwg 2013, gyda 35% o’r ymatebwyr yn ei grybwyll fel prif ffactor, o’i gymharu â llai na 3% o’r ymatebwyr yn 2012. Ni chafwyd gymaint o sôn am faterion megis grym yr archfarchnadoedd, mân reolau a deddfwriaeth, ac atgyfnerthu’r diwydiant. Cyfeiriodd y ffermwyr hynny oedd yn optimistaidd am eu busnesau ar gyfer y flwyddyn nesaf at y tywydd fel y ffactor oedd yn effeithio fwyaf ar eu busnesau, tra bod y ffermwyr mwy pesimistaidd yn fwy tebygol o nodi cost mewnbynnau a phrisiau llaeth na’r tywydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Buddsoddi dros y pum mlynedd nesaf Ymddengys bod digwyddiadau 2012/13 wedi cael effaith fawr ar gynlluniau buddsoddi. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y ffermydd sy’n bwriadu buddsoddi yn eu busnesau llaeth dros y pum mlynedd nesaf, o’i gymharu â’r llynedd. Nododd 29% o ffermwyr Prydain nad oedden nhw’n bwriadu buddsoddi o gwbl yn eu busnesau ac roedd 36% ohonynt heb benderfynu. Mae hyn yn cymharu â dim ond 12% yn rhoi’r naill ateb, ac 13% y llall llynedd. Roedd y rhai nad oedd am fuddsoddi neu heb benderfynu yn tueddu i fod yn ffermwyr hŷn gyda buchesi llai o faint, er bod y rhai yn y categori buchesi mwyaf o dros 200 o fuchod hefyd yn ansicr iawn am eu cynlluniau buddsoddi yn y dyfodol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Roedd ffermydd cymysg a ffermydd organig fel ei gilydd yn llai tebygol o fuddsoddi, tra bod y rhai oedd ar gontractau aliniedig yn fwy tebygol o fuddsoddi rhywfaint yn eu busnesau dros y pum mlynedd nesaf. Meysydd buddsoddi: offer ac adeiladau. Mae’r bwriad i fuddsoddi’n is na’r flwyddyn flaenorol ar bob lefel. Fodd bynnag, dim ond gostyngiad cymharol fach a welwyd yn y gyfran sy’n bwriadu buddsoddi rhwng £ 0 a £ 50, 000 dros y ddwy flynedd nesaf, o’i gymharu â buddsoddiadau mawr. Am fod buddsoddi ar y lefel hon yn debygol o fod yn ddigon i gwrdd â chostau cynnal a chadw’n unig, mae hynny o bosib i’w ddisgwyl. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Arolwg bwriadau ffermwyr, 2013 – tud. 33 http: //www. dairyco. org. uk/reso urces-library/marketinformation/farmerintentions/farmer-intentionssurvey-2013/
Adran 4: Y cyfraniad i gyflogaeth Roedd y sector bwyd-amaeth yn cyflogi 3. 75 miliwn o bobl neu 14 y cant o holl weithwyr Prydain yn 2012. Mae’r gyfran hon wedi aros yr un peth yn fras ers 2001. Mae amaethyddiaeth yn cyfrif am lai na hanner miliwn o weithwyr neu 12 y cant o’r sector bwyd-amaeth. Amaethyddiaeth yn y DU, Defra 2012 Dangosir y 12 grŵp galwedigaethol mwyaf o fewn y sector amaeth, coedwigaeth a physgota yn y tabl isod. Y grwpiau mwyaf cyffredin yw ffermwyr (30 y cant), gweithwyr fferm (14 y cant) a rheolwyr fferm (7 y cant). Lantra © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Ar lefel leol, mae ffermio’n cefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy drwy ddarparu cyflogaeth hanfodol. Mae hyn yn ei dro’n golygu bod pobl yn rhentu neu’n prynu eiddo, yn defnyddio cyfleusterau lleol, gwasanaethau, siopau a bwytai. Mae’n cefnogi economi a chymunedau cefn gwlad. Fodd bynnag, mae ffermio llaeth hefyd yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â gweithio ar fferm. Ystyriwch yr effaith ar y gymuned leol petai’r fferm yn gorfod rhoi’r gorau iddi. Beth fyddai’r effaith debygol ar gyflogaeth, gwasanaethau lleol a’r economi? © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Ar y fferm • Y fferm laeth: tir (prynu, cynnal a chadw, gwella, cefnogi’r amgylchedd, agronomeg, ffensio), adeiladau (gan gynnwys eu cynnal a’u trwsio), cerbydau e. e. tractorau, offer (prynu, cynnal a chadw a thrwsio), rheoli, cyllid, ymchwil, hyfforddi staff, dillad, marchnata a hysbysebu; • • Y fuwch: milfeddyg, maethegydd anifeiliaid, cyflenwyr porthiant, gwasarn, tagiau clust, pasbortau, gwair; Godro: offer parlwr godro (gan gynnwys offer robotig), deunydd glanhau, TG (monitro’r llaeth a gynhyrchir), offer storio, ymweliad y tancer (gyrrwr), diogelwch a gwiriadau a phrofion ansawdd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Ystyriwch effaith y gweithgareddau hyn ar fferm laeth mewn perthynas â chyfleoedd cyflogaeth eraill, yn ogystal â diwydiannau eraill, e. e. cynhyrchu offer. I gael mwy o wybodaeth am yrfaoedd a ffermio, ewch i: www. brightcrop. org. uk
Oddi ar y fferm • Prosesu llaeth: storio, pasteureiddio, pecynnu a labelu; • Manwerthu: storio, arddangos, gwybodaeth am gynnyrch, marchnata, hysbysebu a gwerthiant; • Gwasanaethau bwyd: arlwyo, prydau ysgol a bwytai; • Y defnyddiwr: storio, defnyddio llaeth gyda nwyddau eraill (e. e. brecwast, smwddis). Gall yr effaith bosib yn sgil gallu ffermwr llaeth i fod yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol, neu ar y llaw arall, i orfod rhoi’r gorau i’r busnes, gael effaith pellach ar gyfleoedd cyflogaeth a diwydiannau gweithgynhyrchu/ manwerthu eraill. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cliciwch yma i lawrlwytho’r poster
Trosolwg o gyflogaeth O fewn ffermio’n gyffredinol mae’r gweithlu’n heneiddio, gyda 55% o’r unigolion yn y sector dros 45 oed. Mae nifer yr oedolion yn y sector sydd dros 60 oed wedi cynyddu o 57, 000 yn 2002 i 84, 000 yn 2010. Gostyngodd y nifer sydd dan 25 oed 1. 9% y flwyddyn ar gyfartaledd dros yr un cyfnod. Darllen pellach http: //www. lantra. co. uk/Downloads /Researchreports/Agriculture, -Forestry-and. Fishing-SSA-2012. aspx © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Yn ôl canfyddiadau arolwg CHILDWISE yn 2011 oedd yn edrych ar ddyheadau gyrfa 1, 581 o blant 12 -18 oed, roedd 4% wedi cynnwys amaethyddiaeth ar y rhestr o yrfaoedd y byddent efallai yn eu hystyried. Y prif resymau dros beidio ag ystyried amaethyddiaeth fel gyrfa oedd diffyg diddordeb (64%), diffyg gwybodaeth (38%) a’r gred y byddai’n ailadroddus a diflas (26%). Roedd y prif resymau dros ddangos diddordeb mewn amaethyddiaeth (ymhlith y grŵp bach fyddai’n barod i’w ystyried fel gyrfa) yn gysylltiedig â diddordeb mewn rôl wyddonol, gweithio gydag anifeiliaid, annibyniaeth, gweithio yn yr awyr agored a gofalu am yr amgylchedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Sgiliau sydd eu hangen yn y dyfodol Mae dadansoddiad o anghenion sgiliau’n pwysleisio’r angen am sgiliau busnes a rheoli, megis cynllunio busnes, rheoli prosiectau a rheoli risg. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwyddorau a defnydd o TGCh ymhlith y sgiliau allweddol fydd eu hangen yn y dyfodol i ffermio mewn dull dwys, manwl-gywir a chynaliadwy, yn arbennig yn wyneb problemau ynghylch diogelwch bwyd a’r cynnydd ym mhoblogaeth y byd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Disgwylir y bydd gan y sector gyfran fwy o gyflogaeth o fewn galwedigaethau rheolaethol, proffesiynol a thechnegol, gan adlewyrchu’r tueddiadau cyffredinol ar draws economi’r Deyrnas Unedig. Disgwylir y bydd yna lai o grefftau medrus wrth i’r sector ddod yn fwyfwy broffesiynol. Mae’r sector yn gwyro oddi wrth dueddiadau cenedlaethol o ran y gyfran o alwedigaethau elfennol a ragwelir, sy’n debygol o ostwng o fewn y sector yng nghyd-destun cyfraddau cynyddol yn genedlaethol. Fodd bynnag, mae’r galw am weithwyr amnewid yn aros yn uchel yn sgil poblogaeth sy’n heneiddio, fydd yn cael dylanwad sylweddol ar y galw am sgiliau. (Lantra, 2012) © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Y dyfodol Yn ôl Arolwg Bwriadau Ffermwyr 2013 mae llai o ffermwyr llaeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cynyddu’u lefelau cynhyrchu dros y ddwy flynedd nesaf, o’i gymharu â’r llynedd, o 30% yn arolwg 2012 i 36% eleni. Er bod yna gynnydd yn y gyfran sy’n bwriadu gadael y diwydiant, o 7% i 8%, ers yr arolwg diwethaf, mae’r niferoedd sy’n gadael yn parhau i gyfateb i’r tueddiadau a welwyd yn ystod pum mlynedd diwethaf yr arolwg. Er bod ffermwyr llaeth yn gadael, mae’r lefelau cynhyrchu’n codi yn sgil gwelliannau i ddulliau cynhyrchu, porthiant ac adeiladau. Amcangyfrifir y bydd oddeutu 1, 300 o ffermwyr llaeth yn gadael y diwydiant o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan olygu y gall nifer cynhyrchwyr llaeth y Deyrnas Unedig ostwng i 14, 250. Fodd bynnag, mae’n allweddol nodi bod yna nifer o gyfleoedd o fewn ffermio yn sgil y twf ym mhoblogaeth y byd, y galw am fwyd ac allforion rhyngwladol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Arolwg bwriadau ffermwyr, 2013 http: //www. dairyco. org. uk/reso urces-library/marketinformation/farmerintentions/farmer-intentionssurvey-2013
Adran 5: Y cyfraniad i’r amgylchedd Mae amaethyddiaeth yn cyfrif am tua 70% o’r defnydd tir yn y Deyrnas Unedig. Mae’r arferion rheoli tir yn helpu i siapio’r dirwedd, a gall gael effaith sylweddol ar briddoedd, cyrff dŵr, ansawdd yr aer, bioamrywiaeth a gwasanaethau’r ecosystem. Dros y deng mlynedd diwethaf yr agweddau allweddol o ran newid y pwysau a roir ar yr amgylchedd yw’r gostyngiad yn nifer y da byw, yn arbennig anifeiliaid cnoi cil, a llai o wasgaru gwrtaith artiffisial, yn enwedig ar laswelltir. Mae amaethyddiaeth yn gwneud cyfraniad cymharol fach i economi’r Deyrnas Unedig ond mae’n darparu tua thri chwarter y bwyd rydym yn ei fwyta, ac yn cyfrif am y defnydd pennaf o’r tir. Ochr yn ochr ag arferion rheoli tir a gweithgareddau eraill, mae amaethyddiaeth yn helpu i siapio’r dirwedd ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Amaethyddiaeth gyfrifol Gall amaethyddiaeth gyfrifol helpu i wella bioamrywiaeth a rheolaeth o’r tir. Mae ffermwyr hefyd yn cyfrannu at y gwaith o warchod tirwedd naturiol a chynnal ardaloedd glas ar gyfer gweithgareddau hamdden. Mae’r adroddiad ar werth Ffermio i’r gymdeithas yn awgrymu bod gwerth cymdeithasol a diwylliannol tir ffermio’n cael ei fynegi trwy dirwedd, natur a lle. Tirwedd: Mae cymdeithas yn gosod gwerth uchel ar dirwedd amrywiol a hynod y Deyrnas Unedig, a’i chysylltiadau hanesyddol a diwylliannol. Ffurfiwyd y dirwedd honno’n bennaf gan amaethyddiaeth, a chaiff ei gwerthfawrogi am ei chynnwys naturiol ac amaethyddol fel ei gilydd – ond mae’r cydbwysedd yn un bregus, ac mae cynnal gwerth y dirwedd yn dibynnu ar stiwardiaeth o elfennau naturiol a diwylliannol tir ffermio fel ei gilydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Natur: Mae tir ffermio’n darparu cyd-destun ar gyfer cysylltu â byd natur. Gosodir gwerth mawr ar fioamrywiaeth tir ffermio, ac, fel tirwedd, mae ei gynnal felly’n gofyn am stiwardiaeth o dir ffermio. Fel amwynedd naturiol, mae tir ffermio’n denu rhwng 3. 7% ac 19. 5% o’r boblogaeth ar gyfer ymweliad hamdden bob wythnos, gan gynyddu gwerth eiddo gerllaw. Lle: Fel lle, mae tir ffermio’n cyfrannu tuag at hunaniaeth genedlaethol a lleol. Datgelir pwysigrwydd tir ffermio i hunaniaeth genedlaethol mewn celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth, a’r ymdeimlad o le sy’n rhan annatod o ddiwylliant cenedlaethol. Mae ffermio’n siapio hunaniaeth leol trwy gyfrwng tirwedd nodedig ac arteffactau, a thrwy ei natur barhaus a’i atgofion. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cyfle Mae bioamrywiaeth yn rhan annatod o werth tir ffermio i gymdeithas, ac mae colli bioamrywiaeth wedi bod yn ddylanwad mawr ar agweddau’r cyhoedd tuag at ffermio. Dros y ddegawd ddiwethaf, gwnaed cynnydd o ran gwella’r amgylchedd a bu ffermwyr llaeth yn rhan o’r newid hwnnw. Mae gan Gynllun Mapio Llaeth 2013 darged o sicrhau bod 65% o’r tir ffermio a reolir gan ffermwyr llaeth yn rhan o gynlluniau stiwardiaeth amgylcheddol erbyn 2015. Y ganran go iawn ar hyn o bryd yw 69%. Bu cyfres o gynlluniau stiwardiaeth amgylcheddol yn gymorth yn hyn o beth, sydd, fel y dengys ymchwil diweddar, yn helpu nid yn unig i warchod bioamrywiaeth, ond hefyd i sicrhau buddiannau economaidd a chymdeithasol lleol ehangach. DEFRA, Amaethyddiaeth 2013 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Gwerth ffermio i’r gymdeithas – Gwneud y mwyaf o gyfleoedd, 2013 http: //www. ofc. org. uk /files/ofc/papers/ofcre portfulllow. pdf
Allyriadau nwyon tŷ gwydr Yn 2011 roedd amaethyddiaeth yn cyfrif am 43 y cant o holl allyriadau methan y Deyrnas Unedig. Mae allyriadau methan o amaethyddiaeth yn dod yn bennaf o eplesiad enterig (y prosesau treulio) mewn anifeiliaid cnoi cil, ac arferion rheoli tail buarth. Rhwng 1990 a 2011, amcangyfrifir bod allyriadau methan o amaethyddiaeth wedi gostwng 20% yn sgil gostyngiad yn nifer y da byw a gwell arferion ffermio. Yn 2011, roedd allyriadau methan y Deyrnas Unedig, ac eithrio’r rhai o ffynonellau naturiol, 2. 2% yn is na rhai 2012 a 58% yn is na lefelau 1990. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae ffermwyr llaeth wedi gweithio’n galed i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. O ganlyniad, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermydd llaeth y DU wedi gostwng yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, a heddiw maent yn cynrychioli 2% o holl allyriadau’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn is o lawer na ffynonellau eraill o allyriadau o fewn y DU, er enghraifft mae trafnidiaeth y DU yn gyfrifol am 25% o holl allyriadau’r DU. Mae’r diwydiant llaeth yn dal i ymdrechu i ostwng y lefelau hyn ymhellach drwy’r Cynllun Mapio Llaeth, menter a ddatblygwyd yn wreiddiol gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Nod y prosiect, sy’n cael ei arwain erbyn hyn gan y diwydiant llaeth, yw lleihau effaith amgylcheddol y diwydiant llaeth cyfan. Mae pryderon ynghylch y newid yn yr hinsawdd hefyd yn cael sylw gan ffermwyr llaeth ar raddfa fyd-eang, trwy Agenda Byd -eang y Diwydiant Llaeth ar gyfer Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Ffermio llaeth Rhan o waith y ffermwr llaeth yw helpu i gadw, cynnal a gwella (lle bo angen) yr amgylchedd lleol. Yn aml, fe’u gelwir yn geidwaid cefn gwlad. Mae rhai gwrychoedd ym Mhrydain yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd - felly mae’n hawdd deall pam eu bod yn rhan annatod o dirwedd Prydain. Fel ceidwaid cefn gwlad, mae gan ffermwyr rôl bwysig i’w chwarae yn eu diogelu. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Mae gwaith y ffermwr llaeth yn cynnwys: • Cynnal gwrychoedd, i ddiogelu’r buchesi sy’n pori (yn ogystal â bod yn amddiffynfa naturiol rhag y glaw a’r gwynt) a darparu ardaloedd magu ardderchog ar gyfer adar a mathau eraill o fywyd gwyllt; • Darparu ffin naturiol rhwng caeau; • Tocio gwrychoedd, tu allan i’r tymor nythu, i ddarparu ardaloedd magu ar gyfer adar a mathau eraill o fywyd gwyllt; • Creu ‘coridorau bywyd gwyllt’ trwy adael llain o laswellt ar hyd ymyl y caeau; • Plannu coed a choetiroedd a sefydlu pyllau i ddenu bywyd gwyllt; • Bydd rhai ffermwyr yn gadael sofl india-corn ar gaeau dros y gaeaf, er mwyn i adar allu nythu ymhlith y sofl. O amgylch y fferm, mae’r caeau, gatiau, ffensys a gwrychoedd yn cael eu cynnal a’u cadw – dyna sy’n creu’r cefn gwlad rydym yn ei weld a’i fwynhau. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiynau Adran 1: Ffermio yn y Deyrnas Unedig Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Pa un o’r canlynol oedd yn ffactor allweddol gyda golwg ar y gostyngiad yn y cyfanswm incwm o ffermio yn 2012? Clefyd anifeiliaid Amodau’r tywydd Cynnydd yn y costau llafur Cynnydd yn y rhenti © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Yn 2011, roedd 6. 1% o holl allforion y DU yn ôl gwerth yn allforion bwyd, porthiant a diod. A oedd y rhan fwyaf o’r allforion hyn … Wedi’u prosesu’n ddwys Wedi’u prosesu’n gynnil Heb eu prosesu Yn gymysgedd cyfartal o allforion oedd wedi’u prosesu’n ddwys, wedi’u prosesu’n gynnil neu heb eu prosesu © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Pa ganran o weithlu’r DU a gyflogwyd o fewn amaethyddiaeth yn 2011? 1. 31% 1. 94% 1. 67% 2. 04% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiynau Adran 2: Y diwydiant ffermio llaeth Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Beth yw cyfanswm gwerth holl werthiant blynyddol diwydiant ffermio llaeth y DU? £ 6. 3 biliwn £ 9. 81 biliwn £ 11. 4 biliwn £ 13. 2 biliwn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Dros y 10 mlynedd diwethaf, ym mha wlad y gwelwyd y gostyngiad lleiaf yn nifer y ffermwyr llaeth? Lloegr Yr Alban Cymru Gogledd Iwerddon © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Pa un o’r gwledydd canlynol sydd ddim ymhlith y pum cynhyrchydd llaeth mwyaf yn y byd? Ffrainc Tsieina Yr Unol Daleithiau Brasil © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiynau Adran 3: Y cyfraniad i’r economi Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Pa ganran o’r llaeth amrwd a gynhyrchwyd yn y DU a ddefnyddiwyd i gynhyrchu llaeth hylif? 24. 7% 50. 8% 64. 2% 70. 1% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Pa ffactor a enwyd gan ffermwyr fel yr un fyddai’n cael y mwyaf o effaith ar eu busnesau dros y 12 mis nesaf? Prisiau llaeth Cost mewnbynnau Y tywydd Grym yr archfarchnadoedd © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Faint o arian a wariwyd ar hysbysebu cynnyrch llaeth o fewn y Deyrnas Unedig yn 2012? £ 25. 7 miliwn £ 103. 4 miliwn £ 128. 9 miliwn £ 153. 6 miliwn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiynau Adran 4: Y cyfraniad i gyflogaeth Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Faint o bobl a gyflogwyd o fewn y sector bwydamaeth yn 2012? 1. 5 miliwn 3. 25 miliwn 3. 75 miliwn 4. 25 miliwn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Beth oedd y prif reswm a restrwyd gan blant yn arolwg CHILDWISE dros beidio ag ystyried amaethyddiaeth fel gyrfa? Diffyg diddordeb Diffyg gwybodaeth Y gred y byddai’n ailadroddus a diflas Y gred na fyddai’r tâl yn dda © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Yn ôl yr amcangyfrifon, faint o ffermwyr fydd yn gadael y diwydiant llaeth o fewn y ddwy flynedd nesaf? 1000 1300 1600 1900 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiynau Adran 5: Y cyfraniad i’r amgylchedd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Faint o dir y Deyrnas Unedig a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth? 30% 50% 70% 90% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 2 Pa ganran o’r boblogaeth sy’n ymweld â thir ffermio at ddibenion hamdden bob wythnos? Rhwng 8. 4% ac 13. 6% Rhwng 7. 1% ac 16. 1% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Rhwng 4. 2% ac 19. 9% Rhwng 3. 7% ac 19. 5%
Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Cwestiwn 3 Allyriadau pa nwy tŷ gwydr sydd wedi gostwng 20% o fewn amaethyddiaeth rhwng 1990 a 2011? Carbon deuocsid Anwedd dŵr Methan Ocsid nitrus © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www. foodafactoflife. org. uk Datblygwyd yr adnodd hwn gan Sefydliad Maetheg Prydain a chafodd gefnogaeth gan sefydliad sector llaeth Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), sef Dairy. Co. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
British Nutrition Foundation Imperial House 15 -19 Kingsway London WC 2 B 6 UN Telephone: 020 7557 7930 Email: postbox@nutrition. org. uk Web: www. nutrition. org. uk www. foodafactoflife. org. uk © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014
838d3d0e8102ca0b2b19180b4d06b8d0.ppt