Скачать презентацию Cynaladwyedd a r Amgylchedd BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Скачать презентацию Cynaladwyedd a r Amgylchedd BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

83b9eea90f0e334b36b21bef5b39206b.ppt

  • Количество слайдов: 96

Cynaladwyedd a’r Amgylchedd © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cynaladwyedd a’r Amgylchedd © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Amcanion Dysgu • Cydnabod y newidiadau byd-eang gyda golwg ar gynhyrchu bwyd; • Archwilio’r Amcanion Dysgu • Cydnabod y newidiadau byd-eang gyda golwg ar gynhyrchu bwyd; • Archwilio’r cysyniad o gynaladwyedd a dyfodol bwyd a ffermio; • Adolygu dirnadaeth y defnyddiwr o ffermio a chynaladwyedd; • Disgrifio effaith ffermio ar yr amgylchedd yn y Deyrnas Unedig; • Archwilio ymrwymiad diwydiant llaeth Prydain i gwrdd â’r her o gynhyrchu mwy gyda llai, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd a chynllunio dyfodol mwy cynaliadwy. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Croeso I archwilio’r testun hwn, cliciwch ar yr eiconau canlynol. Mae’r rhain i’w gweld Croeso I archwilio’r testun hwn, cliciwch ar yr eiconau canlynol. Mae’r rhain i’w gweld ar waelod bob sgrin. Mynd yn ôl i’r sgrin gartref Mynd i’r dudalen flaenorol Mynd i’r dudalen nesaf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Prif ddewislen (cartref) Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. Mae cwestiynau ar Prif ddewislen (cartref) Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. Mae cwestiynau ar gael ar gyfer pob adran hefyd. Adran 1: Cynaladwyedd Cwestiynau Adran 2: Yr Amgylchedd Cwestiynau Adran 3: Y Cynllun Mapio Cwestiynau © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Diwedd

Adran 1: Cynaladwyedd Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. a) Deiet iach Adran 1: Cynaladwyedd Cliciwch ar yr adran rydych am ei harchwilio. a) Deiet iach cynaliadwy b) Iechyd a chynaladwyedd c) Dyfodol bwyd a ffermio d) Sicrwydd bwyd e) Diddordeb defnyddwyr f) Gweithredu g) Mabwysiadu deiet Y plât bwyta’n iach h) Lleihau gwastraff yn y cartref © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Deiet iach cynaliadwy Sut allwn ni sicrhau patrwm deietegol sy’n ein darparu â’r holl Deiet iach cynaliadwy Sut allwn ni sicrhau patrwm deietegol sy’n ein darparu â’r holl faetholion sydd eu hangen arnom i gadw’n iach, mewn meintiau priodol, ond sydd hefyd yn deg, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy? Hefyd, sut allwn ni gynhyrchu mwy o fwyd gyda llai o adnoddau, megis dŵr a thanwydd, i fwydo poblogaeth gynyddol y byd? Dyma rai o’r cwestiynau allweddol rydym yn eu hwynebu yn yr 21 ain ganrif, ac mae angen inni ddod o hyd i atebion iddyn nhw, yn gyflym. Mae nifer o bobl o’r llywodraeth, y byd amaeth, y diwydiant bwyd, y byd academaidd, a sectorau eraill, yn cydweithio ar y mater pwysig hwn. Y nod yw canfod atebion i’r heriau hyn sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn realistig, ac a fydd yn sicrhau’r effaith angenrheidiol, o fewn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae hwn yn faes gymharol newydd ac nid yw’r holl atebion gennym eto. Ond Mae hwn yn faes gymharol newydd ac nid yw’r holl atebion gennym eto. Ond yr hyn a wyddom yw bod angen inni ddechrau gweithredu nawr i sicrhau cyflenwad o fwyd cynaliadwy yn fydeang ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a bod gan holl sectorau’r gymdeithas rôl i’w chwarae. Mae yna bwysau aruthrol ar y system fwyd fyd-eang ar hyn o bryd. Mae’r galw am fwyd yn cynyddu wrth i boblogaeth y byd dyfu (disgwylir iddo gynyddu o 7 biliwn heddiw i dros 9 biliwn erbyn 2050), yn ogystal ag yn sgil y cynnydd mewn cyfoeth o fewn economïau sy’n datblygu, am fod hyn yn creu mwy o alw am ddeiet mwy amrywiol a safonol (h. y. mwy o gig a chynnyrch llaeth yn bennaf). © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Nid yw mynd ati i gynhyrchu mwy o fwyd gan ddefnyddio’r dulliau a’r technolegau Nid yw mynd ati i gynhyrchu mwy o fwyd gan ddefnyddio’r dulliau a’r technolegau presennol i gwrdd â’r galw cynyddol hwn yn opsiwn cynaliadwy, oherwydd byddai angen mwy o dir, dŵr ac ynni, sy’n adnoddau darfodedig. Ar yr un pryd mae’r hinsawdd yn newid a bydd hynny’n dod yn fwy amlwg oni bai ein bod yn gweithredu nawr. Yn ôl y World Wildlife Fund (WWF), rydym eisoes yn defnyddio adnoddau naturiol ar raddfa gyflymach na gallu’r blaned i greu rhai newydd yn eu lle. Mae’r WWF yn amcangyfrif petai poblogaeth y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ar yr un raddfa â’r Deyrnas Unedig, y byddai angen tair planed i’n cynnal, sy’n dangos yn bendant bod angen i bethau newid. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae adroddiad a baratowyd ar gyfer y llywodraeth yn ddiweddar gan Foresight (2011) yn Mae adroddiad a baratowyd ar gyfer y llywodraeth yn ddiweddar gan Foresight (2011) yn dwyn y teitl ‘The Future of Food and Farming: challenges and choices for global sustainability’ yn diffinio cynaliadwy/cynaliadwyedd fel: 'A system or state where the needs of the present and local population can be met without diminishing the ability of future generations or populations in other locations to meet their needs and without causing harm to the environment and natural assets. ' http: //www. bis. gov. uk/assets/foresight/docs /food-and-farming/11 -546 -future-of-foodand-farming-report. pdf © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae diffinio ‘deiet cynaliadwy’ yn fater cymhleth ac mae angen ystyried nifer o ffactorau. Mae diffinio ‘deiet cynaliadwy’ yn fater cymhleth ac mae angen ystyried nifer o ffactorau. Yn ogystal â ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, un ffactor allweddol yw bod bwyd yn angen sylfaenol. Mae deiet iach, amrywiol yn ein darparu â’r egni a’r maetholion sydd eu hangen arnom i gadw’n iach, i’r corff weithio fel y dylai, ac ar gyfer gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn tanlinellu’r angen i ystyried agendâu iechyd a chynaladwyedd law yn llaw, er mwyn sicrhau cyflenwad bwyd cynaliadwy a diogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, fydd hefyd yn hyrwyddo iechyd y cyhoedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Iechyd a chynaladwyedd Mae bwyd nid yn unig yn ein darparu â’r tanwydd a’r Iechyd a chynaladwyedd Mae bwyd nid yn unig yn ein darparu â’r tanwydd a’r maetholion sydd eu hangen arnom i gynnal bywyd, ond mae hefyd yn rhan fawr o nifer o ddiwylliannau ac mae’n chwarae rôl sylweddol yn gymdeithasol. Yn y Deyrnas Unedig, mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddigon ffodus i allu bwyta beth fynnwn ni, pryd fynnwn ni. O fewn y farchnad fwyd fydeang bresennol rydym erbyn hyn yn disgwyl prynu’r rhan fwyaf o fwydydd trwy’r flwyddyn, megis cennin yn yr haf a mefus adeg y Nadolig. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn bwyta’n rheolaidd trwy gydol y dydd, heb ystyried rhyw lawer o ble mae’r bwyd wedi dod na sut y cafodd ei gynhyrchu. Ond yn y dyfodol, bydd angen inni newid ein patrymau bwyta. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae’r angen i newid yr hyn rydym yn dewis ei fwyta’n cael ei danlinellu Mae’r angen i newid yr hyn rydym yn dewis ei fwyta’n cael ei danlinellu ymhellach pan ystyriwn ni’r heriau iechyd rydym yn eu hwynebu’n fyd-eang, sef yn benodol: • Mae dros un biliwn o bobl ledled y byd yn dew neu’n ordew; • Mae un biliwn arall heb gyflenwad digonol o fwyd; • Mae cymeriant un biliwn pellach o bobl o ficrofaethion yn annigonol. Mae dileu newyn yn un o’r heriau allweddol sy’n ein hwynebu’n fyd-eang. Mae hyn yn golygu mwy na chynhyrchu digon o fwyd yn y byd i fwydo pawb – mae angen i’r bwyd hwnnw hefyd fod ar gael, ac yn fforddiadwy i bawb. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Dyfodol Bwyd a Ffermio Yn Ionawr 2011, cyhoeddodd Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth adroddiad Foresight Dyfodol Bwyd a Ffermio Yn Ionawr 2011, cyhoeddodd Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth adroddiad Foresight ‘The Future of Food and Farming: Challenges and choices for global sustainability’. Bu dros 400 o arbenigwyr a rhanddeiliaid o tua 35 o wledydd wrthi’n datblygu’r adroddiad. Mae’n adroddiad cynhwysfawr, gyda thros 200 o dudalennau, sydd hefyd yn cynnig mynediad at dros 100 o bapurau tystiolaeth a adolygwyd gan gyfoedion, a gomisiynwyd fel rhan o’r prosiect. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Yn y Deyrnas Unedig, gwelwn dystiolaeth o fwyta gormodedd, yn ogystal â rhy ychydig Yn y Deyrnas Unedig, gwelwn dystiolaeth o fwyta gormodedd, yn ogystal â rhy ychydig o fwydydd egni a maetholion deietegol - er bod dros 60% o oedolion o fewn y categori tew neu ordew ar hyn o bryd, mae cymeriant nifer o bobl o ficrofaethion yn dal i fod yn annigonol yn sgil deiet gwael. Yn gyffredinol, mae angen deiet sy’n iachus ac yn gynaliadwy. Mae hyn yn creu cyfle i ychwanegu negeseuon am yr amgylchedd a chynaladwyedd at y negeseuon presennol am fwyta’n iach. Ond beth yw deiet iach, cynaliadwy? © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae’r FAO (Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig) yn diffinio ‘deiet cynaliadwy’ fel Mae’r FAO (Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig) yn diffinio ‘deiet cynaliadwy’ fel a ganlyn: 'Those diets with low environmental impacts which contribute to food and nutrition security and to healthy life for present and future generations. Sustainable diets are protective and respectful of biodiversity and ecosystems, culturally acceptable, accessible, economically fair and affordable; nutritionally adequate, safe and healthy; while optimising natural and human resources. ' Am wybodaeth bellach am FAO, ewch ihttp: //www. fao. org/home/en/ © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Nod y prosiect oedd archwilio’r pwysau ar y system fwyd fyd-eang rhwng nawr a Nod y prosiect oedd archwilio’r pwysau ar y system fwyd fyd-eang rhwng nawr a 2050, a nodi’r penderfyniadau mae llunwyr polisïau angen eu gwneud heddiw, ac yn y blynyddoedd sydd i ddod, i sicrhau bod modd bwydo poblogaeth fydd yn codi i naw biliwn neu fwy, mewn ffordd gynaliadwy a theg. Mae’r term cynaladwyedd, fel y’i defnyddir yn yr adroddiad, yn golygu defnyddio adnoddau ar raddfa sydd o fewn gallu’r Ddaear i greu rhai i gymryd eu lle. Mae canfyddiadau’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried agendâu iechyd cyhoeddus a chyflenwad bwyd cynaliadwy law yn llaw, er mwyn llwyddo i ddiogelu bwyd a hyrwyddo iechyd cyhoeddus. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae’r adroddiad yn nodi’r prif symbylyddion newid sy’n effeithio ar y system fwyd, gan Mae’r adroddiad yn nodi’r prif symbylyddion newid sy’n effeithio ar y system fwyd, gan gynnwys newidiadau yng ngwerthoedd a safiadau moesegol defnyddwyr. Mae hefyd yn nodi pum prif her ar gyfer y system fwyd fydeang: 1. Cynnal cydbwysedd rhwng y galw a’r cyflenwad yn y dyfodol – i sicrhau bod cyflenwadau bwyd yn fforddiadwy. 2. Sicrhau bod cyflenwadau bwyd yn ddigon sefydlog – ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag yr anwadalrwydd sy’n bodoli. 3. Sicrhau bod pobl ledled y byd yn cael digon o fwyd a dileu newyn (sicrwydd bwyd i bawb). 4. Rheoli cyfraniad y system fwyd mewn perthynas â lliniaru’r newid yn yr hinsawdd. 5. Cynnal gwasanaethau bioamrywiaeth ac ecosystemau gan fwydo’r byd ar yr un pryd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Fel rhan o’r her o gynnal cydbwysedd rhwng y galw a’r cyflenwad yn y Fel rhan o’r her o gynnal cydbwysedd rhwng y galw a’r cyflenwad yn y dyfodol, mae’r adroddiad yn trafod yr angen i ddylanwadu ar ofynion y defnyddiwr am fwydydd, trwy newid deiet pobl. Cydnabyddir bod newid deiet yn anodd a bydd angen ymrwymiad a chydweithrediad, a hynny dros gyfnod hir o bosib. Mae’n ystyried y dylai prif egwyddorion llunwyr polisïau, os byddan nhw’n penderfynu dylanwadu ar batrymau bwyta, gynnwys: gwell penderfyniadau gan ddefnyddwyr gwybodus; bod gwybodaeth syml, gyson a gonest am fwyd yn bwysig; a bod angen cydsyniad cymdeithasol yn ddelfrydol ar unrhyw ymyrraeth gyllidol a rheoleiddiol gan y Llywodraeth. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Daw’r adroddiad i’r casgliad na all unrhyw un dull unigol gwrdd â’r holl heriau Daw’r adroddiad i’r casgliad na all unrhyw un dull unigol gwrdd â’r holl heriau cymhleth sy’n effeithio ar y system fwyd, a bod angen camau pendant ar raddfa eang. Mae’r adroddiad yn darparu 12 o gamau trawsbynciol fel prif flaenoriaethau ar gyfer llunwyr polisïau, gan gynnwys lleihau gwastraff bwyd a gweithio i newid patrymau bwyta. Ffynhonnell: http: //webarchive. nationalarchives. gov. uk/ +/http: //www. bis. gov. uk/foresight/ourwork/projects/current-projects/global-foodand-farming-futures/reports-andpublications © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Sicrwydd Bwyd Yn ôl diffiniad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) mae Sicrwydd Bwyd Yn ôl diffiniad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) mae sicrwydd bwyd yn golygu bod bwyd digonol, diogel a maethlon ar gael i bawb er mwyn iddyn nhw allu bywyd egnïol ac iach, am brisiau fforddiadwy. Prin iawn oedd dealltwriaeth y cyhoedd yn gyffredinol o’r term ‘sicrwydd bwyd’. Mewn arolwg: • ni allai dwy ran o dair o’r ymatebwyr roi ateb; • 4% o’r ymatebwyr oedd yn cysylltu’r term â chael digon o fwyd i fwydo’r boblogaeth a doedd 75% o’r ymatebwyr ddim yn cofio i’r testun sicrwydd bwyd gael ei drafod yn y cyfryngau erioed. Mae pryderon am sicrwydd bwyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol yn deillio o fewnbynnau allweddol megis ynni a dŵr, effaith posib y newid yn yr hinsawdd, yr argyfwng economaidd diweddar a’r dirwasgiad presennol. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Ffynhonnell: https: //www. gov. uk/government/publications/food-statisticspocketbook-2012

Deall y term ‘sicrwydd bwyd’ Siart yn dangos dealltwriaeth ddigymell o’r term ‘sicrwydd bwyd’. Deall y term ‘sicrwydd bwyd’ Siart yn dangos dealltwriaeth ddigymell o’r term ‘sicrwydd bwyd’. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Wrth i boblogaeth y byd gynyddu, bydd angen cynhyrchu a dosbarthu llawer iawn mwy Wrth i boblogaeth y byd gynyddu, bydd angen cynhyrchu a dosbarthu llawer iawn mwy o fwyd. Roedd adroddiad Foresight yn pwysleisio’r angen i ddwysau cynaladwyedd, gan fynd ati i gynhyrchu mwy, gwneud defnydd mwy effeithlon o fewnbynnau, a lleihau effaith amgylcheddol negyddol cynhyrchu bwyd ar yr un pryd. Mae pennu pa mor ddwys a pha mor gynaliadwy y dylai proses gynhyrchu bwyd y Deyrnas Unedig fod yn faes heriol yn ogystal â dadleuol o bosib. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Diddordeb defnyddwyr Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Which? wedi dangos bod gan nifer o Diddordeb defnyddwyr Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Which? wedi dangos bod gan nifer o bobl ddiddordeb yn nharddiad eu bwyd – yn enwedig cigoedd a chynnyrch llaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hynny am fod pobl am gefnogi cynhyrchwyr Prydeinig. Mae i ba raddau mae’r bwyd wedi teithio’n ffactor pwysig, ond nid dyna yw’r ystyriaeth bennaf bob tro wrth bennu effaith amgylcheddol bwydydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Future of food, Which? , Ebrill 2013 http: //press. which. co. uk/wpcontent/uploads/2013/04/Future-of-Food-Report-2013_Final. pdf

Er bod nifer o bobl yn tybio bod prynu’n lleol a phrynu pan fydd Er bod nifer o bobl yn tybio bod prynu’n lleol a phrynu pan fydd y cynnyrch yn ei dymor yn gamau pwysig er mwyn lleihau effaith amgylcheddol yr hyn a fwyteir, nid yw’r cysyniad o filltiroedd bwyd mewn gwirionedd yn cael ei ystyried bellach fel arwydd o effaith amgylcheddol tebygol cynhyrchu bwyd. Rhaid rhoi ystyriaeth i gylch oes cyfan y cynnyrch, o’i darddiad a’r dull o’i gynhyrchu, effaith mewnbynnau megis bwydydd anifeiliaid neu blaladdwyr, hyd at ei gludo, ei baratoi a’i fwyta, yn ogystal â’r gwastraff yn y pen draw. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Gweithredu Trwy newid ein deiet – y math o fwydydd rydym yn eu bwyta Gweithredu Trwy newid ein deiet – y math o fwydydd rydym yn eu bwyta a pha mor aml rydym yn bwyta bwydydd arbennig – mae yna bosibilrwydd y gallwn ni leddfu’r pwysau ar y system fwyd fyd-eang. Fodd bynnag, ni wyddys hyd yma pa newidiadau yn union y dylem eu gwneud i sicrhau deiet iach a chynaliadwy. Hyd yn hyn does dim un set syml o egwyddorion y gallwn ni fel defnyddwyr eu dilyn, ym mhob achos, i nodi bwydydd sy’n fwy cynaliadwy nag eraill. Fodd bynnag, mae yna ddigon o dystiolaeth i gefnogi camau penodol nawr o fewn y Deyrnas Unedig i ddilyn patrwm deietegol Y Plât Bwyta’n Iach a lleihau gwastraff bwyd yn y cartref. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mabwysiadu patrwm deietegol Y Plât Bwyta’n Iach Cynlluniwyd Y Plât Bwyta’n Iach i helpu Mabwysiadu patrwm deietegol Y Plât Bwyta’n Iach Cynlluniwyd Y Plât Bwyta’n Iach i helpu pawb dros ddyflwydd oed i fwyta deiet iach, cytbwys, oherwydd mae’n dangos faint o’r hyn rydym yn ei fwyta ddylai ddod o bob grŵp bwyd. Mae model Y Plât Bwyta’n Iach wedi’i hyrwyddo yn y Deyrnas Unedig ers nifer fawr o flynyddoedd, ond mae’r rhan fwyaf ohonom yn dal i fwyta gormod o fraster dirlawn, siwgr a halen, a dim digon o ffibr, ffrwythau a llysiau. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Yn ogystal â gwella iechyd, mae yna dystiolaeth gynyddol y bydd dilyn y patrwm Yn ogystal â gwella iechyd, mae yna dystiolaeth gynyddol y bydd dilyn y patrwm deietegol Bwyta’n Iach hefyd yn helpu i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd. Hefyd, derbynnir yn gyffredinol y gellir cyfiawnhau cynnwys amrywiaeth o fwydydd planhigion a bwydydd anifeiliaid ym mhatrymau deietegol cynaliadwy’r dyfodol i hyrwyddo iechyd a bioamrywiaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig am fod gwahanol fwydydd yn cynnwys maetholion gwahanol, ac felly mae angen inni fwyta amrywiaeth o fwydydd i gael digon o’r maetholion niferus sydd eu hangen arnom i gadw’n iach. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Ffynhonnell: http: //www. nutrition. org. uk/nutritionscience/sustainability

Mae model y plât bwyta’n iach yn dangos y dylem fwyta peth bwyd o Mae model y plât bwyta’n iach yn dangos y dylem fwyta peth bwyd o bob un o’r pedwar prif grŵp bwyd bob dydd, a mwy o rhai bwydydd nac eraill. Dylai ein deiet fod yn seiliedig ar fwydydd carbohydrad startshlyd (e. e. bara, tatws, reis a phasta), yn ogystal â digon o ffrwythau a llysiau. Dylai dwy ran o dair o’r hyn rydym yn ei fwyta gynnwys amrywiaeth o fwydydd o’r ddau brif grŵp bwyd hyn. Dylai’r rhan fwyaf o’r traean arall o’r deiet fod y llaeth a bwydydd llaeth, cig, pysgod, wyau, ffa, a ffynonellau eraill o brotein ar wahân i gynnyrch llaeth. Gallwn hefyd gynnwys meintiau bach o’r bwydydd yn y pumed grŵp yn ein deiet (bwydydd a diodydd sy’n cynnwys llawer o fraster a/neu siwgr) (e. e. cacennau, siocled, melysion, bisgedi, diodydd swigod, creision) i ychwanegu blas. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 I gael mwy o wybodaeth am batrwm deietegol Y Plât Bwyta’n Iach cliciwch yma. Ffynhonnell: http: //www. nutrition. org. uk/nutritionscience/sustainability

Lleihau gwastraff bwyd yn y cartref Amcangyfrifir bod cartrefi’r Deyrnas Unedig yn gwastraffu 8. Lleihau gwastraff bwyd yn y cartref Amcangyfrifir bod cartrefi’r Deyrnas Unedig yn gwastraffu 8. 3 miliwn tunnell o fwyd bob blwyddyn, sy’n costio £ 12 biliwn iddyn nhw ac yn cyfrannu 3% at allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig. Mae’r broblem gyda gwastraff bwyd o bersbectif cynaladwyedd yn ymwneud â’r adnoddau a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd (h. y. dŵr, tir ac ynni), yn ogystal â’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â chael gwared arno. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Gallwn ddilyn y cynghorion syml hyn i leihau gwastraff bwyd yn y cartref: • Gallwn ddilyn y cynghorion syml hyn i leihau gwastraff bwyd yn y cartref: • Osgoi coginio mwy o fwyd na sydd angen; • Cynllunio prydau bwyd cyn mynd i siopa a dim ond prynu beth sydd ei angen; • Defnyddio bwydydd cyn eu dyddiad‘defnyddio erbyn’. Cadw llygad ar fwydydd gyda dyddiad ‘ar ei orau cyn’ a cheisio bwyta’r rhain cyn y dyddiad hwnnw i wneud yn siŵr ei fod o ansawdd uchel (ceir mwy o wybodaeth am labeli gyda dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’ yma) • Canfod ffyrdd creadigol o ddefnyddio bwyd dros ben; • Dilyn y cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd. Ffynhonnell: Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Am fwy o fanylion ar sut i wastraffu llai o fwyd yn y cartref, ewch i wefan yr ymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff (www. lovefoodhatewaste. com).

Adran 2: Yr Amgylchedd Mae amaethyddiaeth yn darparu tua thri chwarter o’r bwyd rydym Adran 2: Yr Amgylchedd Mae amaethyddiaeth yn darparu tua thri chwarter o’r bwyd rydym yn ei fwyta ac yn cyfrif am y defnydd pennaf o’r tir. Ynghyd ag arferion a gweithgareddau rheoli tir eraill, mae amaethyddiaeth yn helpu i siapio’r dirwedd ac yn darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Gall yr arferion hyn gael effaith ddifrifol ar briddoedd, dŵr, ansawdd yr aer, bioamrywiaeth ac ecosystemau. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Allyriadau methan Mae’r siart hwn yn dangos cyfraniad amaethyddiaeth i gyfanswm allyriadau methan y Allyriadau methan Mae’r siart hwn yn dangos cyfraniad amaethyddiaeth i gyfanswm allyriadau methan y Deyrnas Unedig. Yn 2011, y prif ffynonellau methan oedd amaethyddiaeth (43%) a safleoedd tirlenwi (34%). https: //www. gov. uk/uk-greenhouse-gasemissions#uk-emissions-statistics Fframwaith monitro arsyllfa Defra, Chwefror 2013 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Roedd allyriadau methan y Deyrnas Unedig, ac eithrio’r rhai o ffynonellau naturiol, 2. 2% Roedd allyriadau methan y Deyrnas Unedig, ac eithrio’r rhai o ffynonellau naturiol, 2. 2% islaw lefelau 2010 a 58% islaw lefelau 1990. Y prif ffynonellau methan o amaethyddiaeth yw eplesiad enterig (y broses dreulio) a rheoli gwrtaith. Ers 1990 mae allyriadau pob un o’r tri nwy tŷ gwydr o amaethyddiaeth (Methan, Ocsid Nitrig, Carbon Deuocsid), wedi gostwng yn gyson. Erbyn 2011, roedd allyriadau methan o amaethyddiaeth wedi gostwng 20%. Rhwng 2010 a 2011 gwelwyd cynnydd o 0. 5% yn lefel yr allyriadau methan o amaethyddiaeth. Mae cynlluniau amaeth-amgylcheddol yn darparu taliadau i ffermwyr sy’n mabwysiadu arferion rheoli tir a ffermio sy’n fuddiol i’r amgylchedd. Mae’r nifer sy’n ymuno â chynlluniau o’r fath yn dangos i ba raddau mae ffermio ecogyfeillgar wedi cydio. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Adran 3: Y Cynllun Mapio Ffermio Llaeth Ers 2008, mae diwydiant llaeth Prydain wedi Adran 3: Y Cynllun Mapio Ffermio Llaeth Ers 2008, mae diwydiant llaeth Prydain wedi cyhoeddi adroddiad cyhoeddus yn gosod manylion ei ymrwymiad i’r her o gynhyrchu mwy gyda llai, lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, a chynllunio dyfodol mwy cynaliadwy. Mae’r adroddiadau blynyddol yn manylu ar y cynnydd a wnaed tuag at dargedau mesuradwy penodol ac yn cyflwyno targedau newydd, gan danlinellu ymrwymiad ffermwyr i gynhyrchu mwy gan effeithio llai ar yr amgylchedd ar yr un pryd. Yr enw a roir arno yw’r Cynllun Mapio Llaeth. I gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Mapio Ffermio Llaeth, ewch i: http: //www. dairyroadmap. com/ © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Mae tasglu’r Cynllun Mapio Llaeth yn cynnwys dros 25 o sefydliadau ar draws diwydiant Mae tasglu’r Cynllun Mapio Llaeth yn cynnwys dros 25 o sefydliadau ar draws diwydiant llaeth Prydain, gan gynnwys cynrychiolwyr amaeth, manwerthwyr, gwneuthurwyr cynnyrch llaeth, y llywodraeth a phartneriaid diwydiant. Gyda’i gilydd, mae’r sefydliadau hyn yn diffinio targedau ac yn cynhyrchu adroddiadau rheolaidd ar y cynnydd mae’r diwydiant yn ei wneud mewn materion amgylcheddol. Mae’r dull hwn o weithredu’n unigryw i Brydain, ac mae’n canolbwyntio ar y gadwyn fwyd, gyda ffermwyr drwodd i manwerthwyr yn dod at ei gilydd i gytuno ar raglen fras o dargedau amgylcheddol -gynaliadwy i’w cyrraedd o fewn amser penodedig. Roedd y Cynllunio Mapio Llaeth yn canolbwyntio’n wreiddiol ar y sector llaeth hylif yn unig, ond erbyn hyn mae’n ymwneud â’r holl sector cynhyrchu llaeth. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Dewiswch opsiwn Archwiliwch y targedau ar gyfer ffermwyr llaeth. Erbyn 2015 Erbyn 2020 Darllenwch Dewiswch opsiwn Archwiliwch y targedau ar gyfer ffermwyr llaeth. Erbyn 2015 Erbyn 2020 Darllenwch yr astudiaethau achos. David Harding – ceidwad cefn gwlad Steve Edmunds – cynhyrchu ynni amgen © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Dewiswch darged i’w archwilio’n fwy manwl. 1) 90% o ffermwyr Targedau ffermwyr llaeth 2015 Dewiswch darged i’w archwilio’n fwy manwl. 1) 90% o ffermwyr wrthi’n cynllunio i reoli maetholion. 2) 65% o dir ffermio llaeth yn perthyn i Gynlluniau Stiwardiaeth Amgylcheddol. 3) 70% yn mabwysiadu mesurau i wneud defnydd effeithlon o ddŵr 4) 10 – 15% o ffermwyr llaeth yn archwilio a/neu’n gweithredu o leiaf un math o dechnoleg ynni adnewyddadwy. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 5) 50% o ffermwyr llaeth yn gweithredu datblygiadau a/neu dechnolegau newydd i leihau allyriadau o amaethyddiaeth 6) Gostyngiad yn nifer yr achosion o lygredd difrifol ar ffermydd. 7) Ffermwyr llaeth yn cael eu hannog i bennu’u hôl troed carbon a rhoi cynlluniau i leihau carbon ar waith.

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 1: 90% o ffermwyr llaeth wrthi’n cynllunio i reoli Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 1: 90% o ffermwyr llaeth wrthi’n cynllunio i reoli maetholion. Mae cynllunio maetholion yn effeithiol yn sicrhau bod y maetholion a wasgarir, un ai fel gwrtaith artiffisial neu dail buarth organig, yn gwrdd â’r gofynion o ran tyfu’r cnwd mwyaf posib, a bod maetholion mwynol newydd yn cymryd lle’r rhai a ddisodlir wrth gynaeafu’r cnwd. Mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth dda o faeth cnydau, gwybodaeth gyfredol am statws maethol y pridd a chyfansoddiad y gwrtaith, technegau gwasgaru priodol, ac amseru’r gwasgaru’n ofalus i sicrhau bod y cnwd sy’n tyfu’n derbyn y mwyaf posib o faetholion. Mae cynlluniau Rheoli Maetholion yn helpu ffermwyr a thyfwyr i gynllunio’u defnydd o wrtaith a thail buarth, i gwrdd â gofynion rheoleiddiol ac i amddiffyn yr amgylchedd. Mae’r gyfran o ddaliadau llaeth sydd â chynllun rheoli maetholion yn 73% erbyn hyn. Mae’r ffigwr hwn wedi codi o 60% ers 2009. Os bydd y cynnydd hwn yn parhau, mae’r diwydiant yn debygol o sicrhau bod 90% o ffermwyr wrthi’n cynllunio maetholion erbyn 2015. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 2: 65% o dir ffermio llaeth yn perthyn i Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 2: 65% o dir ffermio llaeth yn perthyn i Gynlluniau Stiwardiaeth Amgylcheddol. Mae yna 5, 170 o gytundebau’n bodoli lle mae ffermwyr llaeth yn rhan o Gynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol (ESS) yn Lloegr ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae cyfanswm yr ardal o ddaliadau llaeth sy’n perthyn i ESS yn 841, 810 hectar (ha), sy’n cynrychioli tua 69% o’r tir ffermio llaeth. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr llaeth Lloegr sy’n cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol yn derbyn taliadau dan y Cynllun Stiwardiaeth Lefel Mynediad, i’w helpu gyda rheolaeth amgylcheddol. Yr opsiynau amgylcheddol mwyaf poblogaidd i ffermwyr llaeth yw: • Rheoli gwrychoedd er mwyn gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt, a gwella’r dirwedd leol a ffiniau hanesyddol ar yr un pryd; • Glaswelltir parhaol gyda mewnbynnau isel, er mwyn cefnogi amrywiaeth ehangach o blanhigion a bywyd gwyllt; • Gwarchod coed mewn caeau, sy’n helpu i ddarparu cynefinoedd bywyd gwyllt. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 3: 70% yn mabwysiadu mesurau i wneud defnydd effeithlon Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 3: 70% yn mabwysiadu mesurau i wneud defnydd effeithlon o ddŵr. Mae ffigwr o tua 1, 000 o litrau wedi’i ddyfynnu fel y cyfartaledd byd-eang o ran y dŵr sydd ei angen i gynhyrchu litr o laeth. Fodd bynnag, oherwydd ein hinsawdd gymedrol, does dim angen i ddiwydiant llaeth y Deyrnas Unedig ddefnyddio dŵr dyfredig. Mae’r rhan fwyaf o borthiant llaeth y Deyrnas Unedig yn dod o gnydau sydd wedi’u bwydo â dŵr glaw, sy’n golygu mai dim ond 7 -8 litr o ddŵr sydd ei angen o’r prif gyflenwad, neu wedi’i dynnu o afonydd neu ddyfrdyllau, i gynhyrchu litr o laeth. Mae canlyniadau Arolwg Adnoddau Dairy. Co a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2012 yn dangos bod gan ffermwyr ddiddordeb cynyddol yn y defnydd o ddŵr: • Roedd 78% yn gweithredu mesurau effeithlonrwydd, ac roedd traean o’r rhain yn ystyried cymryd camau pellach i wneud defnydd mwy effeithlon o ddŵr; • O’r rhain, roedd 31% yn casglu dŵr glaw, 94% yn ailddefnyddio dŵr o’r platiau oeri, a 53% wedi dargyfeirio cyflenwadau dŵr drwy ddefnyddio dŵr dyfrdwll; • Roedd 61% o ffermwyr llaeth yn defnyddio mesurydd dŵr, a 96% yn cadw golwg cyson am unrhyw ddŵr yn gollwng. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 4: 10 – 15% o ffermwyr llaeth yn archwilio Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 4: 10 – 15% o ffermwyr llaeth yn archwilio a/neu’n gweithredu o leiaf un math o dechnoleg ynni adnewyddadwy. Mae archwilio a/neu weithredu rhyw fath o ynni adnewyddadwy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd ymhlith ffermwyr. Gwelir ynni adnewyddadwy fel math o ddargyfeirio ar y fferm ac fel ffynhonnell amgen o incwm oherwydd gall helpu i leihau biliau ynni a chreu refeniw. • • • Roedd 28. 9% o’r ymatebwyr i Arolwg Adnoddau Dairy. Co â rhyw fath o ynni adnewyddadwy ar waith; O’r rhain roedd 71. 1% wedi gosod paneli solar ffotofoltaidd (PV), 22. 3% wedi codi tyrbinau gwynt, a 5. 0% wedi sefydlu systemau Treuliad Anaerobig; Roedd gan 38. 7% o’r ymatebwyr gynlluniau i gyflwyno rhyw fath o ynni adnewyddadwy. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 5: 50% o ffermwyr llaeth yn gweithredu datblygiadau a/neu Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 5: 50% o ffermwyr llaeth yn gweithredu datblygiadau a/neu dechnolegau newydd i leihau allyriadau o amaethyddiaeth. Mae ffermio llaeth yn ddiwydiant blaengar sydd wrthi’n mabwysiadu’r dechnoleg ddiweddaraf. Yn ôl arolwg diweddar gan Dairy. Co, roedd 80. 2% o’r ymatebwyr yn gweithredu mesurau, offer neu sgiliau oedd yn newydd i’r fferm, oedd â’r potensial i wella effeithlonrwydd technegol a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Roedd y rhain yn amrywio o newid arferion rheoli i fabwysiadu technolegau newydd a gwell. Mae peiriannau sy’n gwneud defnydd mwy effeithlon o danwydd yn lleihau maint yr ynni a ddefnyddir, a gall defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf olygu bod tasgau megis gwasgaru gwrtaith neu slyri’n fwy manwl-gywir. Mae gwell rhaglenni bridio’n paru geneteg yr anifail â’r system ffermio, ac yn arwain at gynhyrchu mwy effeithlon drwy elwa ar botensial anifeiliaid o radd uwch. Mae gwelliannau o ran statws iechyd yn sicrhau lles anifeiliaid o safon dda, gan leihau’r colledion cynhyrchu yn sgil clefydau. Mae gwella effeithlonrwydd porthiant yn sicrhau bod yr anifail yn perfformio hyd ei orau, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 6: Gostyngiad yn nifer yr achosion o lygredd difrifol Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 6: Gostyngiad yn nifer yr achosion o lygredd difrifol ar ffermydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 7: Ffermwyr llaeth yn cael eu hannog i bennu’u Targedau ffermwyr llaeth 2015 Targed 7: Ffermwyr llaeth yn cael eu hannog i bennu’u hôl troed carbon a rhoi cynlluniau i leihau carbon ar waith. Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a delio gyda’r newid yn yr hinsawdd yn faterion byd-eang sydd angen eu hateb yn fydeang ac mae ffermwyr llaeth yn rhan o’r ateb hwnnw. Mae ein hinsawdd, ein daearyddiaeth a’n gwybodaeth yn golygu bod ffermwyr llaeth Prydain mewn sefyllfa ddelfrydol i greu cynnyrch llaeth mewn ffordd effeithlon ac amgylcheddol gynaliadwy. Mae mesur ôl troed carbon yn golygu bod modd creu darlun cyflawn o effeithlonrwydd ffermydd. Mae’n darparu adolygiad manwl o’r defnydd o adnoddau, ac yn pennu effaith paramedrau fferm penodol, megis maint y llaeth a gynhyrchir a chyfradd amnewid y fuches, ar yr allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr. Mesur ôl troed carbon ffermydd: • Roedd 38% o’r rhai a ymatebodd i arolwg adnoddau Dairy. Co (2012) wedi cael archwiliad ôl troed carbon ar eu ffermydd, ac roedd 52% o’r rheiny wedi defnyddio’r archwiliad carbon i addasu’u dulliau rheoli. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2020 Dewiswch darged i’w archwilio’n fwy manwl. 1) 20 - 30% Targedau ffermwyr llaeth 2020 Dewiswch darged i’w archwilio’n fwy manwl. 1) 20 - 30% o ostyngiad yn yr allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (gan gynnwys carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrig) o ffermydd llaeth rhwng 1990 a 2020. 2) 70% o wastraff annaturiol yn cael ei ailgylchu neu’i adfer fel arfer safonol. 3) 90% yn mabwysiadu mesurau i wneud defnydd mwy effeithlon o ddŵr. 4) 40% o’r ynni a ddefnyddir ar ffermydd llaeth yn dod o ffynonellau adnewyddadwy. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 1: 20 - 30% o ostyngiad yn yr allyriadau Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 1: 20 - 30% o ostyngiad yn yr allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (gan gynnwys carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrig) o ffermydd llaeth rhwng 1990 a 2020. Mae dau bersbectif ar gael ar y tueddiadau o ran allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o ffermio llaeth. Y cyntaf yw data’r rhestr genedlaethol, a ddefnyddir gan y Llywodraeth i adrodd ar ymrwymiadau rhyngwladol y Deyrnas Unedig i leihau carbon dan brotocol Kyoto. Rhestr genedlaethol: • Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr amcangyfrifedig sector llaeth y Deyrnas Unedig yn gostwng o 26% rhwng 1990 a 2010; • Dros yr un cyfnod, cyfraniad ffermio llaeth i gyfanswm allyriadau amaethyddol y Deyrnas Unedig yn gostwng o 29% i 27%. Yr ail ffynhonnell yw’r wybodaeth am ôl troed carbon a gesglir oddi ar ffermydd gan y diwydiant llaeth ei hun. Erbyn hyn mae archwiliadau carbon wedi’u cwblhau ar dros 2000 o ffermydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 2: 70% o wastraff annaturiol yn cael ei ailgylchu Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 2: 70% o wastraff annaturiol yn cael ei ailgylchu neu’i adfer fel arfer safonol. Fel arfer mae gwastraff annaturiol yn golygu plastig (h. y. defnydd lapio silwair, cynhwysyddion, bagiau gwrtaith), yn ogystal ag eitemau megis papur/cardfwrdd, drymiau olew, gwastraff adeiladu, batris a theiars. Ar hyn o bryd mae rhai o’r anghenion datblygu mwyaf ar gyfer ffermwyr sy’n ailgylchu gwastraff yn ymwneud ag argaeledd cyfleusterau ailgylchu a chost uchel cynlluniau casglu. Mae hwn yn darged ymestynnol fydd yn cynnwys hyrwyddo’r broses o ddatblygu seilwaith fydd yn caniatáu gwaredu deunydd o’r fath, yn ogystal â dulliau gwell o fesur cynnydd. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 3: 90% yn mabwysiadu mesurau i wneud defnydd mwy Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 3: 90% yn mabwysiadu mesurau i wneud defnydd mwy effeithlon o ddŵr. Mae’r targed hwn yn ymestyn y targed o 70% ar gyfer 2015. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 4: 40% o’r ynni a ddefnyddir ar ffermydd llaeth Targedau ffermwyr llaeth 2020 Targed 4: 40% o’r ynni a ddefnyddir ar ffermydd llaeth yn dod o ffynonellau adnewyddadwy. Mae’r targed hwn yn adeiladu ar y targed 10 15% ar gyfer 2015. Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed i gyflenwi 15% o’r ynni a ddefnyddir gan y Deyrnas Unedig o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020. Mae’r targed o 40% ar gyfer ynni adnewyddadwy’n un heriol, ond mae’n adlewyrchu’r potensial a’r diddordeb ymhlith ffermwyr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

David Harding – ceidwad cefn gwlad Mae’r ffermwr llaeth o Sussex, David Harding, yn David Harding – ceidwad cefn gwlad Mae’r ffermwr llaeth o Sussex, David Harding, yn dangos y gall ffermwyr llaeth fod yn geidwaid cefn gwlad, yn ogystal â bod yn gynhyrchwyr bwyd. I’r mwyafrif o ffermwyr llaeth, mae cynhyrchu llaeth yn fusnes teuluol, a’u blaenoriaethau yw sicrwydd hirdymor, gallu trosglwyddo’r fferm i’r genhedlaeth nesaf, a gofalu am eu tir a’u hanifeiliaid. Dyna’r prif reswm pam y mae dros 65% o ffermwyr llaeth wedi ymrwymo erbyn hyn i gytundebau stiwardiaeth cefn gwlad cydnabyddedig, sy’n sicrhau bod gweithrediadau ffermio’n mynd law yn llaw â byd natur. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 I weld David Harding ar waith, dilynwch y ddolen hon: http: //www. dairyroadmap. com/ portfolio-items/davidharding/? portfolio. ID=4380

Steve Edmunds – cynhyrchu ynni amgen Mae Steve Edmunds yn rheoli buches laeth o Steve Edmunds – cynhyrchu ynni amgen Mae Steve Edmunds yn rheoli buches laeth o 200 o fuchod, sy’n cynhyrchu 7000 litr o laeth, mewn partneriaeth â’i frawd yn Bridgewater. Mae wedi buddsoddi mewn system solar PV sydd wedi’i gosod ar ddaear y fferm, sy’n cynhyrchu 50% o’r pŵer a fewnforiwyd yn flaenorol ar gyfer yr uned laeth o 200 o fuchod, tair annedd ar y fferm, ac uned dofednod gyfagos. Yn ogystal, mae dau foeler biomas 25 k. W yn cymryd lle’r system wresogi olew ar gyfer y ddau dŷ ac yn arbed 60 tunnell o garbon y flwyddyn. Mae Steve yn disgrifio’i hun fel “y cyntaf o frid newydd o ffermwyr ynni” sydd â chyfle unigryw, yn sgil cymhelliannau’r llywodraeth, i gael incwm gwarantedig am 25 mlynedd a chael dwy fywoliaeth oddi ar yr un tir. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Trwy’r Tariffau Cyflenwi Trydan (Fi. Ts) mae’r system solar yn arwain at enillion fferm Trwy’r Tariffau Cyflenwi Trydan (Fi. Ts) mae’r system solar yn arwain at enillion fferm o £ 41, 500 y flwyddyn, gydag enillion ar fuddsoddiad o 16%. Yn ogystal, mae dau foeler biomas 25 k. W yn cymryd lle’r system wresogi olew ar gyfer y ddau dŷ, gan arbed 60 t o garbon y flwyddyn. Er bod hyn oll yn ychwanegu at drosiant y fferm laeth, mae’n golygu mwy nag arian yn unig. Mae dros 2, 500 o bobl wedi ymweld â’r safle dros y ddwy flynedd diwethaf – ffermwyr yn bennaf, ond hefyd cynllunwyr, bancwyr ac yswirwyr. Mae wedi chwarae rôl yn dylanwadu ar bawb sy’n ymwneud â’r sector. Trwy’r rhai y gŵyr eu bod wedi gosod system solar PV yn sgil ei arddangosfa, mae’n amcangyfrif bod bron £ 1. 6 m yn dod yn ôl erbyn hyn i’r economi wledig trwy’r Tariffau Cyflenwi Trydan (Fi. Ts) © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen hon: http: //www. fwi. co. uk/articles/04/ 10/2012/135557/2012 -greenenergy-farmer-of-the-year-steveedmunds. htm

Cwestiynau Adran 1: Cynaladwyedd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiynau Adran 1: Cynaladwyedd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Pa nifer y disgwylir i boblogaeth y byd ei gyrraedd erbyn 2050? Cwestiwn 1 Pa nifer y disgwylir i boblogaeth y byd ei gyrraedd erbyn 2050? 5 biliwn 7 biliwn 9 biliwn 11 biliwn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 2 Mewn arolwg, faint o bobl oedd yn gwybod y term sicrwydd bwyd Cwestiwn 2 Mewn arolwg, faint o bobl oedd yn gwybod y term sicrwydd bwyd yn golygu bod yna ddigon ar gael i fwydo’r boblogaeth? 4% 14% 24% 34% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 3 Pa rai o’r materion canlynol a gysylltwyd fwyaf ag effaith amgylcheddol bwyd? Cwestiwn 3 Pa rai o’r materion canlynol a gysylltwyd fwyaf ag effaith amgylcheddol bwyd? Milltiroedd bwyd Llygredd o gemegau a phlaladdwyr Effaith ar fywyd gwyllt Prinder dŵr © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 4 Yn ôl Y Plât Bwyta’n Iach, faint o’r bwydydd rydym yn eu Cwestiwn 4 Yn ôl Y Plât Bwyta’n Iach, faint o’r bwydydd rydym yn eu bwyta ddylai fod yn rhai carbohydrad startshlyd, ffrwythau a llysiau. 1/3 1/2 2/3 3/4 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 5 Sawl tunnell o fwyd yr amcangyfrifir y mae’r Deyrnas Unedig yn ei Cwestiwn 5 Sawl tunnell o fwyd yr amcangyfrifir y mae’r Deyrnas Unedig yn ei wastraffu bob blwyddyn? 7. 3 miliwn 8. 3 miliwn 9. 3 miliwn 10. 3 miliwn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiynau Adran 2: Yr Amgylchedd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiynau Adran 2: Yr Amgylchedd Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Beth oedd prif ffynhonnell allyriadau methan y Deyrnas Unedig yn 2011? Safleoedd Cwestiwn 1 Beth oedd prif ffynhonnell allyriadau methan y Deyrnas Unedig yn 2011? Safleoedd tirlenwi Morgrug gwynion Amaethyddiaeth Llosgi biomas © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 2 Faint o’r bwyd rydym yn ei fwyta a ddarperir ar ein cyfer Cwestiwn 2 Faint o’r bwyd rydym yn ei fwyta a ddarperir ar ein cyfer gan amaethyddiaeth? 1/4 1/2 2/3 3/4 © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 3 Rhwng 2010 a 2011 pa ostyngiad a welwyd yn lefel yr allyriadau Cwestiwn 3 Rhwng 2010 a 2011 pa ostyngiad a welwyd yn lefel yr allyriadau methan o amaethyddiaeth? 0. 5% 2. 2% 2. 5% 5. 5% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiynau Adran 3: Y Cynllun Mapio Ffermio Llaeth Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiynau Adran 3: Y Cynllun Mapio Ffermio Llaeth Cychwyn © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Faint o ffermwyr llaeth sydd angen bod wrthi’n cynllunio i reoli maetholion Cwestiwn 1 Faint o ffermwyr llaeth sydd angen bod wrthi’n cynllunio i reoli maetholion i gwrdd â tharged ffermwyr llaeth 2015? 60% 70% 80% 90% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 1 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 1 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 2 Erbyn 2015, dylai 10 -15% o ffermwyr llaeth fod wrthi’n archwilio a/neu’n Cwestiwn 2 Erbyn 2015, dylai 10 -15% o ffermwyr llaeth fod wrthi’n archwilio a/neu’n gweithredu o leiaf un math o dechnoleg ynni adnewyddadwy. O’r rhai sy’n gweithredu rhyw ffurf ar ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd, beth mae’r mwyafrif wedi’i osod? Paneli solar ffotofoltaidd (PV) Tyrbinau gwynt Systemau treuliad anaerobig Systemau micro hydro © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 2 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 2 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 3 Erbyn 2020, dylai 70% o wastraff annaturiol gael ei ailgylchu neu’i adfer Cwestiwn 3 Erbyn 2020, dylai 70% o wastraff annaturiol gael ei ailgylchu neu’i adfer fel arfer safonol. Pa un o’r canlynol sydd ddim yn enghraifft o wastraff annaturiol? Plastig Drwm olew Teiar Gwrtaith © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 3 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 3 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 4 Erbyn 2020, pa ganran o’r ynni a ddefnyddir ar ffermydd llaeth ddylai Cwestiwn 4 Erbyn 2020, pa ganran o’r ynni a ddefnyddir ar ffermydd llaeth ddylai ddod o ffynonellau adnewyddadwy? 20% 40% 60% 80% © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 4 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 4 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Cwestiwn 5 Sawl tunnell o garbon mae’r ddau foeler biomas 25 k. W sy’n Cwestiwn 5 Sawl tunnell o garbon mae’r ddau foeler biomas 25 k. W sy’n cymryd lle’r system wresogi olew yn y ddau dŷ yn ei arbed ar fferm Steve Edmunds? 40 tunnell 60 tunnell 80 tunnell 100 tunnell © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn 5 Cywir. Da iawn. Cwestiwn nesaf. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf. Cwestiwn 5 Anghywir. Rhowch gynnig arall arni. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014 Cwestiwn nesaf.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www. foodafactoflife. org. uk Datblygwyd yr adnodd hwn Am fwy o wybodaeth, ewch i: www. foodafactoflife. org. uk Datblygwyd yr adnodd hwn gan Sefydliad Maetheg Prydain a chafodd gefnogaeth gan sefydliad sector llaeth Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), sef Dairy. Co. © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014

British Nutrition Foundation Imperial House 15 -19 Kingsway London WC 2 B 6 UN British Nutrition Foundation Imperial House 15 -19 Kingsway London WC 2 B 6 UN Telephone: 020 7557 7930 Email: [email protected] org. uk Web: www. nutrition. org. uk www. foodafactoflife. org. uk © BRITISH NUTRITION FOUNDATION 2014